Food Cardiff loading now

14, 15, 16 Hydref – Coginio, Tyfu, Bwyta ym Marchnadoedd Ffermwyr Glan-yr-afon

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd rhwng 10 Medi a 18 Hydref gyda dwsinau o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar draws y ddinas.

Rhiwbeina: Ar ddydd Gwener 14 Hydref am 11am, bydd Regan Heatley, maethegydd cymwys, yn siarad am fwyd a maeth organig, ac yn gwneud amrywiaeth o smwddis gyda llysiau organig o’n marchnadoedd.

Y Rhath: Ar ddydd Sadwrn 15 Hydref am 11am, bydd Amanda o CBC Urban Vertical yn cynnal gweithdy i egluro sut i ddechrau tyfu meicrolysiau – a pham bod hynny o fudd.

Glan-yr-afon: Ar ddydd Sul 16 Hydref am 11am bydd Amanda yn Fitzhammon Embankment yn cyflwyno’r un gweithdy.

Does dim angen cadw lle, dewch draw!