Mae Bwyd Caerdydd yn chwilio am aelodau gwirfoddol newydd ar gyfer y bwrdd. Dewch i ymuno â ni!
Mae Bwyd Caerdydd yn credu y dylai bwyd fod yn dda i bobl, yn dda i lle rydyn ni’n byw, ac yn dda i’n planed – yn ogystal â bod yn fforddiadwy ac yn flasus. Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf ac iach. Mae’r ffordd y caiff ei gynhyrchu yn parchu pobl a’r amgylchedd naturiol ac mae’r ffordd y caiff ei werthu yn cefnogi’r economi leol.
Ydych chi am helpu i lunio system fwyd Caerdydd a dylanwadu arni? Yn frwd dros ymgysylltu â phobl, cymunedau a sefydliadau ledled Caerdydd, gan eu hannog i ddod yn rhan o ddyfodol bwyd y brifddinas? Os felly, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod gwirfoddol o fwrdd Bwyd Caerdydd?
Yn 2026, bydd Bwyd Caerdydd yn cychwyn ar gam nesaf ei daith ers iddo ennill ei statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen grŵp amrywiol ac ysbrydoledig o bobl arnom i helpu i barhau i lunio a datblygu ein gwaith ymhellach i newid ein system fwyd leol.
Bydd Bwrdd Strategaeth Bwyd Caerdydd yn canolbwyntio ar gyfeiriad strategol y bartneriaeth, gan gynnig arweiniad ar sut i ddatblygu a gwella ein llwyddiant ymhellach. Bydd trafodaethau’r Bwrdd Strategaeth yn ategu rhwydwaith presennol Bwyd Caerdydd lle gall partneriaid gyfnewid a rhannu syniadau a gwybodaeth yn ogystal â chysylltu ag ystod eang o bobl a sefydliadau sy’n gweithio yn y maes bwyd yng Nghaerdydd. Darllenwch y Cylch Gorchwyl yma.
Pwy rydym yn chwilio amdano/amdani
Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad (drwy waith, gwirfoddoli, neu fywyd) o faterion ac atebion bwyd yng Nghaerdydd. Yn benodol, rydym yn chwilio am arbenigedd yn y meysydd canlynol i ychwanegu at ein haelodau bwrdd presennol:
- Prosiectau bwyd cymunedol (e.e. tyfu bwyd, pantrïau, clybiau cinio ac ati)
- Rhedeg busnes bwyd yn y ddinas (e.e. manwerthwyr, lletygarwch, arlwywyr ac ati)
- Ffermio / tyfu / cynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur
Rydym yn awyddus i’r bwrdd strategaeth adlewyrchu’r bobl amrywiol yng Nghaerdydd. Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ar Fwrdd a byddwn yn ymdrechu i gefnogi aelodau’r Bwrdd Strategaeth i gymryd rhan lawn mewn ffordd sy’n addas i chi, gan ystyried eich dewis iaith, eich gofynion diwylliannol, unrhyw ofynion hygyrchedd yn ogystal â’r angen i fod yn hyblyg er mwyn ystyried anghenion gofalu.
Manteision ymuno â’r bwrdd
- Cyfle i wella system fwyd leol Caerdydd
- Cyfleoedd i wneud penderfyniadau strategol ac ennill sgiliau newydd
- Meithrin perthynas â grŵp angerddol o bobl sy’n ymwneud â bwyd yng Nghaerdydd
Ymrwymiad
Hoffem i aelodau’r Bwrdd Strategaeth ymrwymo i dymor 12 mis i ddechrau (gydag opsiwn i ymestyn). Er mwyn llunio’r strategaeth a’r cynllun gweithredu nesaf, ar gyfer gweddill 2026 cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Strategaeth bob 6 wythnos.
Ar ôl hynny, bydd y Bwrdd Strategaeth yn adolygu amlder, gan anelu at gyfarfodydd chwarterol gan gynnwys un diwrnod strategaeth y flwyddyn. Bydd aelodau’r Bwrdd gyda’i gilydd yn cytuno ar ddyddiadau ac amseroedd.
Sut i wneud cais
I fynegi eich diddordeb, anfonwch e-bost at Lucinda Jones, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy foodsensewales@wales.nhs.uk erbyn 13 Ebrill yn cynnwys y canlynol:
- Enw
- Y sefydliad rydych chi’n ei gynrychioli (os yw’n berthnasol)
- Crynodeb byr (uchafswm o 250 gair) o’r wybodaeth, y sgiliau neu’r profiad sydd gennych
Bydd aelodau’r bwrdd presennol yn adolygu ceisiadau a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
Mwy o gwestiynau?
Cysylltwch â Lucinda Jones, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy os hoffech gael sgwrs anffurfiol i drafod ymhellach: foodsensewales@wales.nhs.uk