Am y tro cyntaf ers 2019 a’r pandemig 2019, cynhaliwyd cynhadledd wyneb-yn-wyneb Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, a hynny dros ddeuddydd heulog yng Ngholeg St. Catherine, Rhydychen.
Daeth dros 160 o hyrwyddwyr bwyd da o bob un o bedair gwlad y DU at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau, i rannu profiadau a syniadau ac i drafod y ffyrdd gorau o lansio, dosbarthu a chynnal bwyd iach, cynaliadwy a lleol i bawb. Roedd cynrychiolwyr o saith Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Cymru yn bresennol yn y gynhadledd, ynghyd ag aelodau o dîm Food Sense Wales, SFP’s national partner in Wales.
Mae Camilla Lovelace, sy’n aelod o fwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd, wedi rhannu rhai o’r prif bethau a ddysgodd o’r gynhadledd yn y blog hwn.
“Cafwyd cynulleidfa dda yn nghynhadledd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ynghyd â chynrychiolwyr o bartneriaethau a sefydliadau bwyd gwahanol o bob cwr o’r DU.
Traddodwyd yr araith agoriadol gan y Cynghorydd Mark Lygo o Good Food Oxfordshire, a siaradodd am y ffordd y gall bwyd achosi’r argyfyngau iechyd a hinsawdd yn ogystal â’u datrys. Yna aeth Kath Dalmeny, Prif Weithredwr Sustain, ati i groesawu’r bobl sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod bwyd da ar gael i bawb yn y DU. Siaradodd am y cyfleoedd sydd ar gael i gynadleddwyr fod yn rhan lawn o’r broses o Ddysgu, Gwrando a Rhannu. Amlygodd yn gryno y cynnydd anhygoel a wneir yng Nghymru a’n llwyddiant blaenorol o roi polisïau ar waith, a’r Bil Bwyd Da Cenedlaethol sydd wedi cael ei basio yn yr Alban. Mae gan y ddwy wlad ddatganoledig hon enghreifftiau da o sut y gellir gosod gofynion ar swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio iaith y maent am ei chlywed.
Cyfrannodd Louise Denham, o sefydliad cyfagos Bwyd y Fro, at drafodaeth banel fywiog yn ystod sesiwn y bore. Roedd y drafodaeth yn pwysleisio’r gwaith a wneir i geisio byrhau cadwyni cyflenwi lleol, a pha mor werthfawr yw cefnogi’r broses o dyfu bwyd amaethyddol a chymunedol yn lleol. Rhannodd Brighton a Hove rywfaint o wybodaeth am y gwaith mae’n ei wneud i ymchwilio i a dangos gwerth rhandiroedd i awdurdodau lleol, a allai fod yn ddefnyddiol i’n grwpiau tyfu cymunedol yma yng Nghymru ac i’r Rhwydwaith ‘Edible Cardiff’.
Cafodd y cyfranogwyr eu rhannu’n grwpiau ar gyfer gweithdai, ac roedd amrywiaeth ohonynt ar gael; arweiniodd y mynychwyr o Food Matters a Sustain weithdy i ddangos yr arferion da yn sgil cymryd rhan ehangach y Mudiad Bwyd Da. Soniwyd am bwysigrwydd ymgysylltu â’r rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn ymwneud rhyw lawer â materion bwyd ; sut i gryfhau llais yr aelodau, a llais y gymuned hefyd.
Roedd cyfle i gyfranogwyr hefyd wrando ar sgwrs am fwyd da rhwng Talia o Glasgow a Fiona o Calderdale. Mae Glasgow wedi llunio strategaeth fwyd ddemocrataidd wedi’i harwain gan ddinasyddion, gan ddenu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Cafwyd gweithdy i gyfranogwyr ar y ‘byd rydym am ei weld’ fel rhan o ŵyl dant y llew – sy’n rhywbeth y gallwn ni ei efelychu yma yng Nghaerdydd.
Roedd yn wych hefyd cael clywed am daith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Brighton gan Gyfarwyddwr Partneriaeth Fwyd Brighton a Hove; mae Brighton wedi cael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (mae gan Gaerdydd statws arian ar hyn o bryd) ac mae’r ddinas yn mynd ati i newid y sgyrsiau am fwyd; e.e. peidio â siarad am Wastraff Bwyd ond yn hytrach sôn am Ddefnyddio Bwyd. Mae’n credu’n gryf mewn compostio’n lleol er mwyn iddynt gael ‘lleoedd defnyddio bwyd’ cymunedol sydd â chompost cymunedol a Rhwydwaith Gwarged Bwyd. Ysbrydoledig yn wir.
Ymunodd Cydlynydd Bwyd Caerdydd, sef Pearl Costello, â’r gweithdy wedi’i arwain gan SOS-UK a oedd yn sôn am ddefnyddio egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith partneriaeth bwyd, sy’n cyd-fynd â dull Bwyd Caerdydd o greu mudiad bwyd cynhwysol a hygyrch ar lawr gwlad. Mynychodd sgwrs hefyd a amlygodd waith Dumfries a Galloway a Swydd Gaerloyw i gynnwys ffermwyr a thyfwyr bwyd yn y bartneriaeth fwyd, sef yr hyn y mae gwaith Rhaglen Ffermio Ymylol Caerdydd yn ceisio ei wneud.
I gloi, roedd y gynhadledd yn gyfle i ddathlu’r wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy arian a enillodd Caerdydd yn 2021 – gan gydnabod gwaith y ddinas i sicrhau bwyd da i bawb; gallwch ddarllen mwy am hyn yma.
Fe wnaethom adael y gynhadledd ddeuddydd yn llawn cyffro a syniadau ac rydym yn barod i ymateb i’r her o drawsnewid Caerdydd yn Lle Bwyd Cynaliadwy safon aur; gallwch gael gwybod mwy am y nod hwn a’r hyn rydym am ei wneud i gyflawni hynny yn Strategaeth Bwyd Da Caerdydd 21 – 24.”
Yn awyddus i gael gwybod mwy? Yn awyddus i gael gwybod mwy? Mae Cathy Cliff, Cynghorydd Polisïau Cymdeithas y Pridd, wedi rhannu ei phrofiad o Gynhadledd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy 2023 hefyd a gallwch ei ddarllen yma.
Gallwch hefyd ddarllen mwy am Leoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru yma.