Mae rhaglen beilot newydd wedi’i lansio yng Nghaerdydd sy’n ceisio sicrhau bod bwyd iach sy’n dda i’r blaned yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb – yn enwedig y rhai sy’n wynebu incwm isel ac anghydraddoldebau iechyd.
Mae Bontio’r Bwlch yn fenter a sefydlwyd i fynd i’r afael â chwestiwn bwyd sy’n dda i iechyd ac i’r blaned, sy’n aml yn dod ar gost uwch na dewisiadau amgen llai iach a/neu llai da i’r blaned.
Trwy Bontio’r Bwlch, mae rhaglenni peilot wedi eu lansio ar draws y DU i archwilio ffyrdd o oresgyn y bwlch hwn, a gwneud bwyd iach cynaliadwy – yn enwedig ffrwythau a llysiau organig a gynhyrchir yn gynaliadwy – yn fwy hygyrch i bobl ar incwm is.
Rhaglen beilot Caerdydd yw’r Cerdyn y Blaned, cydweithrediad rhwng Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd, Bwyd Caerdydd, a grŵp o dyfwyr organig, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol.
Cyd-gynhyrchwyd cynlluniau terfynol datblygu’r cerdyn mewn gweithdy cymunedol yn Nhreganna ar 1 Mawrth, a ddaeth â chynrychiolwyr o bob rhan o’r ddinas ynghyd a fyddai â diddordeb mewn treialu’r cynllun.
Bydd Cerdyn y Blaned yn gerdyn â gwerth hyd at £11 yr wythnos iddo – gan alluogi deiliaid i newid eu siopa wythnosol arferol am ffrwythau a llysiau i fersiynau a gynhyrchir yn organig, heb gael eu gadael allan o boced. Bydd siopwyr yn gallu defnyddio’r cerdyn mewn dewis o stondinau ffrwythau a llysiau organig yn unrhyw un o Farchnadoedd Ffermwyr Caerdydd ar draws y ddinas (a geir yn wythnosol yn Rhiwbeina, Y Rhath a Glan-yr-afon).
Mae Marchnad Ffermwyr Caerdydd yn arwain y cynllun peilot gyda grŵp cychwynnol o 20 o siopwyr. Unwaith y bydd yr arbrawf hwnnw wedi’i werthuso, bydd ail gam gyda 120 o siopwyr yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr haf hwn. Bydd y dystiolaeth o’r ddau gam yn cael ei defnyddio i gefnogi cynigion ar gyfer newidiadau i bolisi bwyd ar lefel leol a chenedlaethol.
Esboniodd Carol Adams, rheolwr menter ym Marchnad Ffermwyr Caerdydd:
“Roedd y gweithdy yn gyfle gwerthfawr i’n cymuned, ffermwyr a rheolwyr y farchnad ddod at ei gilydd a chyd-greu ateb sydd o fudd i bawb sy’n cymryd rhan.
“Dwedodd pobl wrthym eu bod am siopa’n organig, ond yn hanesyddol maent wedi taro rhwystrau o ran fforddiadwyedd ac argaeledd. Rydym hefyd wedi clywed y gall pobl weithiau weld bwyd organig a siopa ym marchnadoedd ffermwyr yn rhy ddrud ac felly nid ydynt yn rhywbeth y maent yn teimlo y gallant fanteisio ato.
“Mae wedi bod yn wych mynd i’r afael â rhai o’r cam-ganfyddiadau hyn a helpu i addysgu pobl am fanteision gallu prynu’n uniongyrchol gan dyfwyr. Nid yn unig o ran pris – nid yw bob amser yn ddrutach na’r archfarchnad – ond hefyd o ran gallu prynu’r hyn sydd ei angen arnoch, cael cyngor gan gynhyrchwyr ar sut i goginio a storio ffrwythau a llysiau ffres, a sut i wneud y gorau ohono.”
Un o’r tyfwyr sy’n cefnogi’r cynllun yw’r tyfwr Pawel Wisniewski, sy’n rhedeg Paul’s Organic Veg yn Sir Fynwy. Dwedodd:
“Fel ffermwr organig, rwy’n angerddol dros ddarparu’r bwyd gorau posibl i bobl. Bwyd yw sylfaen ein hiechyd, a gall dewisiadau bwyd da nawr arwain at ddyfodol iachach. Mae’r prosiect hwn yn arbennig o gyffrous oherwydd mae’n caniatáu imi rannu’r angerdd hwn a chysylltu â chwsmeriaid newydd, gan eu helpu i wneud dewisiadau iachach a chael mynediad at fwyd o ansawdd uchel.”
Mae Pontio’r Bwlch yn bartneriaeth rhwng Cynnal, Growing Communities, Elusen Alexandra Rose Nourish NI, Nourish Scotland a Synnwyr Bwyd Cymru.
Mae cynllun peilot Caerdydd wedi cael ei gydlynu drwy rwydwaith Bwyd Caerdydd sy’n cysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas. Daeth y cysyniad ar gyfer y Cerdyn y Blaned allan o ddau weithdy cymunedol Big Ideas a drefnwyd gan Bwyd Caerdydd.
Ychwanegodd cydlynydd Bwyd Caerdydd Pearl Costello:
“Mae Bwyd Caerdydd yn falch o gefnogi ein partneriaid, gan gynnwys Marchnad Ffermwyr Caerdydd, i ddatblygu’r cynllun arloesol hwn. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth Bwyd Caerdydd i roi bwyd da wrth galon cymunedau cryf, iach a gwydn. Mae’r Cerdyn y Blaned hefyd yn gam gwych tuag at weld Caerdydd yn cyflawni ei statws Lle Bwyd Cynaliadwy Aur, gan ddangos cryfder y mudiad bwyd da yn y ddinas gan wneud dewisiadau bwyd sy’n dda i’r hinsawdd yn fwy hygyrch a fforddiadwy.”
Dylai pobl sydd â diddordeb cymryd rhan yn ail gam y prosiect yr haf hwn gysylltu â Carol Adams yn carol@cardifffarmersmarkets.org.uk