Mae miloedd o bobl ar draws y ddinas wedi cymryd rhan yng Ngŵyl yr Hydref gyntaf Bwyd Da Caerdydd.
Trefnodd grwpiau cymunedol, gerddi, busnesau lleol ac ysgolion 45 o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y ddau fis diwethaf a ddenodd tua 4,000 o bobl a dosbarthwyd mwy na 5,000 o blanhigion llysiau a dyfwyd gan Blanhigfeydd Parc Bute Cyngor Caerdydd i annog pobl i ddechrau tyfu gartref.
Trefnwyd yr Ŵyl, sef rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnal pellter corfforol a rhai rhithwir ynghylch tyfu, coginio a rhannu bwyd, gan Bwyd Caerdydd i fynd i’r afael â dau fater pwysig sydd wedi’u gwaethygu gan Covid-19 – ansicrwydd bwyd ac unigedd.
Ochr yn ochr â’r gweithgareddau tyfu, arweiniodd sesiynau coginio dan arweiniad ar-lein, cyfleoedd i gyfnewid ryseitiau a dosbarthiadau coginio at goginio a rhannu mwy na 1,300 o brydau bwyd.
Pearl Costello yw trefnydd yr ŵyl a chydlynydd Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd. Eglurodd:
“Mae problemau ansicrwydd bwyd, unigedd ac arwahanrwydd wedi’u dwysáu gan Covid-19 felly mae wedi bod mor bwysig ein bod yn dod â chymunedau at ei gilydd drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd yn ystod yr hydref eleni.
“Mae tyfu eich bwyd eich hun gartref yn ffordd wych o egino diddordeb mewn coginio, annog teuluoedd i fod yn fwy anturus o ran yr hyn y maen nhw’n ei fwyta ac, wrth gwrs, darparu cynnyrch cost isel i ategu’r siopa wythnosol. Mae tyfu yn y gymuned yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau oes yn yr ardal leol.
“Mae Gŵyl yr Hydref yn adeiladu ar ein rhaglen yr haf, Tyfu gyda’n Gilydd ac yn cyfuno’r ddwy, sy’n golygu ein bod wedi gallu dosbarthu mwy nag 20,000 o blanhigion, hadau a phecynnau tyfu ledled Caerdydd eleni,” meddai.
Cynhaliwyd digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein a thrwy bartneriaethau cymunedol ledled Caerdydd, gan ddechrau gyda phicnic cymunedol Carnifal Butetown. Croesawodd Canolfan Mileniwm Cymru berfformwyr lleol o Garnifal Butetown am ddiwrnod o weithgareddau a oedd yn cynnwys tri safle picnic gyda phellter cymdeithasol. Gan weithio gyda phartneriaid yn Fareshare, Food For Life Get Togethers a Bwyd Caerdydd, mwynhaodd y gwesteion picnic brofiad bwyd Caribïaidd
Yn Nhrelái, gweithiodd Tyfu Caerdydd gyda Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) i gynnal Gŵyl Bwyd Da Dusty Forge. Casglodd Tyfu Caerdydd blanhigion llysiau a pherlysiau’r hydref a’r gaeaf o Blanhigfa Parc Bute i’w dosbarthu yn y digwyddiad ac i erddi cymunedol lleol ac Ysgol Glan yr Afon. Gwnaeth ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithdai plannu a thyfu, dysgu ryseitiau cawl newydd a gwneud basgedi crog i fynd adref â nhw.
Coginio oedd thema’r digwyddiadau a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon. Gwnaethant dri fideo o fenywod lleol yn coginio eu hoff brydau, yna darparwyd cynhwysion a chardiau rysáit mewn sawl iaith fel y gallai pobl wneud y prydau gartref. Drwy ddosbarthu 195 o becynnau ryseitiau, mae’r Ganolfan yn amcangyfrif bod bron i 1000 o brydau bwyd wedi’u coginio diolch i’r ŵyl
Hefyd yng Nglan-yr-afon, mae Gardd Salad Caerdydd a Tyfu gyda’n Gilydd wedi dod at ei gilydd i helpu plant yn Ysgol Kitchener Road i blannu gwelyau uchel gyda salad a llysiau’r gaeaf. Ar Ddiwrnod Bwyd y Byd, rhoddwyd planhigion am ddim ac aeth mwy na 100 o bobl leol adref â phlanhigion, potiau, compost a bylbiau. Ymunodd Tyfu Caerdydd â’r digwyddiad i ofyn i bobl beth yr hoffent ei weld yn cael ei dyfu yng Ngardd Gymunedol newydd Canolfan Iechyd Glan-yr-afon.
Nododd Neuadd Llanrhymni lansiad trydydd Pantri Lleol Caerdydd gan roi rhoddion planhigion i deuluoedd yn nwyrain Caerdydd. Gwnaeth Global Gardens, rhandir cymunedol yn Gabalfa, weithio gyda chogyddion lleol i greu ryseitiau i ddathlu cynnyrch tymhorol, dosbarthu 5kg o gnydau i brosiectau ar draws y ddinas a chynnal dau weithdy gwasgu afalau gydag Orchard Caerdydd, gan arbed 70kg o afalau lleol.
Gwnaeth Global Gardens, rhandir cymunedol yn Gabalfa, weithio gyda chogyddion lleol i greu ryseitiau i ddathlu cynnyrch tymhorol, dosbarthu 5kg o gnydau i brosiectau ar draws y ddinas a chynnal dau weithdy gwasgu afalau gydag Orchard Caerdydd, gan arbed 70kg o afalau lleol. Gweithiodd Gardd Salad Caerdydd gyda phrosiect ieuenctid y Cyngor, Llawr Gwlad, i gynnal dau weithdy naddu pwmpen a phrydau cymunedol i rieni ifanc ac i grŵp o bobl ifanc â Syndrom Asperger.
Ar ddiwedd yr ŵyl, cynhaliodd Green Squirrel un o’r digwyddiadau mwyaf ar safle newydd Gerddi’r Rheilffordd yn Sblot. Dosbarthwyd mwy na 1,000 o blanhigion a hadau yn rhoddion yn y digwyddiad a thrwy ddanfon o ddrws i ddrws. Sicrhaodd Green Squirrel hefyd fod gan grwpiau cymunedol, gerddi ac ysgolion blanhigion i’w tyfu dros fisoedd y gaeaf.
Wrth siarad yn nigwyddiad Green Squirrel yng Ngerddi’r Rheilffordd Sblot, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas:
“Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn dod draw – yn ddiogel wrth gwrs – a gweld cymaint o ddiddordeb yn yr Ŵyl. Rwy’n falch iawn bod y Cyngor wedi gallu cefnogi’r digwyddiadau gyda phlanhigion o’n planhigfa ym Mharc Bute.
“A chyffrous ydy bod yma ar y darn o dir yn Sblot sy’n mynd i fod yn ardd gymunedol newydd yn y dyfodol agos iawn – lle bu, flynyddoedd lawer yn ôl, iard chwarae a ailagorwyd i’r gymuned.
“Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych ac mae mor braf gweld rhywbeth cadarnhaol yn digwydd yng nghanol yr holl lymder ar hyn o bryd,” meddai.
Aeth Pearl yn ei blaen i ddweud:
“Mae eleni wedi bod mor heriol i gynifer o bobl. Drwy wneud pobl yn fwy ymwybodol o’r grwpiau a’r cymorth sydd ar gael yn eu hardal leol, a darparu cyfleoedd i gysylltu â’u cymdogion rydym yn cyflawni dau nod – sicrhau bod pobl yn gallu cael y bwyd mae ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd, ac adeiladu cymunedau mwy gwydn ar gyfer y dyfodol,” meddai.
Derbyniodd nifer o’r prosiectau gyllid a chefnogaeth gan Food for Life Get Togethers, rhaglen Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da.
Datblygodd Bwyd Caerdydd becyn cymorth i gefnogi grwpiau cymunedol gyda chynllunio a hyrwyddo digwyddiadau sy’n ddiogel rhag covid. Mae’r canllaw rhad ac am ddim hwn ar gael i’w lawrlwytho a’i ddefnyddio gan unrhyw grŵp bwyd neu dyfu yma.