Mae miloedd o bobl ar hyd a lled Caerdydd wedi mynychu gweithdai, gwleddoedd cymunedol, a digwyddiadau’n ymwneud â bwyd da dros y pedair wythnos diwethaf, fel rhan o drydedd Gŵyl Hydref flynyddol Bwyd Da Caerdydd – sef rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ar hyd da lled y ddinas.
Trefnwyd yr ŵyl gan Bwyd Caerdydd, sy’n rhan o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – rhaglen bartneriaeth dan arweiniad Cymdeithas y Pridd, Food Matters a Sustain, a ddarperir yng Nghymru gan ei phartner cenedlaethol, Synnwyr Bwyd Cymru.
Darparodd Bwyd Caerdydd a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) grantiau i 20 o wahanol ysgolion a grwpiau cymunedol i dalu cost cynnal digwyddiad fel rhan o ŵyl – gyda sefydliadau cymunedol eraill hefyd yn ymuno drwy gynnal eu digwyddiadau eu hunain a hunanariannwyd.
Roedd llawer o’r digwyddiadau a ariannwyd yn ymwneud â chymunedau’n dod at ei gilydd i helpu i wella mynediad at fwyd iach a chynaliadwy – a meithrin gwydnwch – drwy’r argyfwng costau byw.
Un o’r sefydliadau a ariannwyd oedd Urban-Vertical CIC, a gynhaliodd weithdai ‘O’r Fferm i’r Fforc’ am ddim yn y Sblot, gan ddangos i gyfranogwyr sut i dyfu microlysiau cynaliadwy yn hawdd i ategu eu deiet. Cynhaliwyd taith o amgylch fferm a sgwrs yn manylu ar sut y gall ffermio fertigol helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau byw; gwahoddwyd y cyfranogwyr wedyn i ddefnyddio’r ardal dyfu gymunedol newydd yn un o’r cynwysyddion llongau wedi’i addasu yn y Signal Box, i hau a thyfu eu cnydau eu hunain.
Ar ôl cinio wedi’i wneud o ryseitiau’n cynnwys microlysiau, cynigiodd ail weithdy o’r enw ‘Good Mood Food’ gyfle i’r cyfranogwyr edrych yn fanylach ar sut y gall bwyd reoli hwyliau. Dilynwyd y gweithdai hyn yn y Sblot gan benwythnos o sgyrsiau am ddim ym marchnadoedd ffermwyr y Rhath a Glan yr Afon.
Dywedodd Amanda Wood, sylfaenydd Urban-Vertical CIC
“Mae gennym un nod yn Urban Vertical CIC, sef helpu ein cymuned i ffynnu ac rydym yn gwneud hyn drwy gysylltu, tyfu a chreu Roedd yn wych bod yn rhan o Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd, gan helpu pobl o bob rhan o’r ddinas i dorchi eu llewys a thyfu bwyd gan hyrwyddo llesiant ein cymunedau, iechyd y blaned a’n system fwyd leol ar yr un pryd.”
Roedd digwyddiadau eraill drwy gydol yr ŵyl yn cynnwys cystadleuaeth ‘Ready, Steady, Cook’ Pantri Tremorfa – gallai aelodau’r pantri gasglu bag ychwanegol o gynhwysion gyda’u nwyddau wythnosol, i goginio pryd neu brydau i’w rhannu ymhlith y gymuned drannoeth; ym Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd rhoddodd SOL Nutrition arddangosiad rhad ac am ddim yn dangos sut i wneud smwddis maethlon o gynnyrch marchnad organig i gefnogi iechyd da; yn y cyfamser, defnyddiodd Grŵp Cymunedol Love Yourself yn Butetown gynnyrch lleol o siopau lleol i goginio gwledd flasus i’r aelodau ei mwynhau.
Pearl Costello yw trefnydd yr ŵyl a chydlynydd Bwyd Caerdydd. Meddai,
“Roedd gŵyl yr hydref yn gyfle i gymunedau ddod at ei gilydd dros fwyd da, yn ogystal â chyfle i fynd i’r afael â rhai o’r materion pwysig sy’n ein hwynebu yn fwy uniongyrchol – diffyg diogeledd bwyd, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol sydd oll yn cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw. Mae’n hanfodol bod gan bawb yn y ddinas gyfleoedd i gael mynediad at fwyd fforddiadwy a maethlon; ein gobaith yw y bydd y cysylltiadau a luniwyd yn ystod gŵyl yr hydref yn helpu i greu cymunedau cryfach, iachach a mwy gwydn yn yr hirdymor.”
Dyma drydedd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd a drefnir gan Bwyd Caerdydd i gefnogi a hyrwyddo’r genhadaeth ledled y ddinas i wneud Caerdydd yn un o Ddinasoedd Bwyd Mwyaf Cynaliadwy y Deyrnas Unedig. Hon yw trydedd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd a drefnwyd gan Bwyd Caerdydd i gefnogi a hyrwyddo’r genhadaeth i wneud Caerdydd yn un o Ddinasoedd Bwyd mwyaf Cynaliadwy’r DU. Mae mwy na 5,000 o bobl wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau blaenorol gwyliau’r hydref, gyda mwy na 5,000 o blanhigion llysiau wedi’u dosbarthu i gartrefi, a channoedd o brydau wedi’u coginio a’u rhannu gyda’i gilydd.