Daeth dros 20 o gynrychiolwyr o brosiectau bwyd a thyfu cymunedol ynghyd i drafod cynaliadwyedd hirdymor ac i ddathlu cyflawniadau.
Cyfarfu Cydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd ym mis Mawrth yng Ngardd Gegin fywiog Grangetown, gan ddod â thros 20 o gynrychiolwyr o bantris bwyd, ceginau cymunedol, a phrosiectau tyfu ledled y ddinas ynghyd. Gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd y rhwydwaith yn y dyfodol, roedd y digwyddiad yn gyfle i ffarwelio yn ogystal â chymryd cam gobeithiol ymlaen.
Agorodd y diwrnod gyda theyrnged ddiffuant ac emosiynol i Pearl Costello, a fydd yn symud ymlaen i swydd newydd gyda Synnwyr Bwyd Cymru. Mae Pearl wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad Cydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd, gan gynnig cefnogaeth ddiflino a gweledigaeth a fu o gymorth i Gaerdydd ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024 – un o blith dim ond pedwar lle yn y DU i gael yr anrhydedd honno. Mynegodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad brwd o’i harweinyddiaeth, sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y Gydweithfa a’i heffaith rymus ar wydnwch bwyd cymunedol yng Nghaerdydd. Bydd Pearl yn parhau i oruchwylio Bwyd Caerdydd nes i gydlynydd newydd gael ei benodi.
Yn sgil ymadawiad Pearl, roedd y cyfarfod yn gyfle amserol i fyfyrio ar gryfderau’r rhwydwaith ac archwilio’r hyn sydd ei angen i gefnogi a chynnal y Gydweithfa yn y dyfodol. Dan arweiniad Grant ac Amanda, sy’n aelodau o’r gweithgor, ochr yn ochr â’r gŵr gwadd, Thomas Crocket, Swyddog Datblygu’r Trydydd Sector yng Nghyngor Trydydd Sector Caerdydd, bwriadwyd i’r sesiwn fod yn ymgynghoriad gweithredol.
Drwy gydol y dydd, cydweithiodd y cyfranogwyr ar bum maes allweddol sy’n hanfodol i ddyfodol y gydweithfa:
- Cyfathrebu a Chydweithio
- Hyfforddiant a Rhannu Gwybodaeth
- Cyllid ac Adnoddau
- Eiriolaeth a Dylanwad
- Cymorth Ymarferol i Brosiectau Bwyd
Datblygwyd y themâu hyn drwy drafodaethau grŵp, gweithdai rhyngweithiol, a rhannu syniadau am y dyfodol. Bydd yr allbynnau’n cael eu defnyddio fel sail i arolwg ledled y ddinas a fydd yn cael ei ddosbarthu ar draws rhwydwaith Cydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd, gyda’r nod o gasglu mewnbwn ehangach gan bob aelod a sefydliadau cefnogol.
Cafodd y mynychwyr eu bwydo nid yn unig gan y sgyrsiau ond hefyd gan ginio blasus a chynaliadwy a baratowyd gan wirfoddolwyr yng Ngardd Gegin Grangetown. Gan arbenigo mewn bwyd sy’n cael ei dyfu ar y safle a chynhwysion dros ben, mae’r gwirfoddolwyr yn enghraifft o’r arloesedd ar lawr gwlad a’r ysbryd cymunedol sydd wrth wraidd y Gydweithfa.
Atgyfnerthodd y digwyddiad ymrwymiad y gydweithfa i ddatblygu system fwyd decach a mwy gwydn i Gaerdydd. Wrth i’r rhwydwaith edrych tua’r dyfodol, bydd y wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn ystod y cyfarfod hwn yn helpu i sicrhau bod y Gydweithfa yn parhau i gael ei harwain gan y gymuned, yn gynhwysol, ac yn barod i wynebu heriau’r dyfodol.
Bydd yr arolwg a luniwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei lansio yn yr haf a’i rannu’n eang ar draws y rhwydwaith. Bydd pob llais yn hanfodol o ran dylanwadu ar yr hyn a fydd yn digwydd nesaf.



