Ym mis Medi, dychwelodd Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd am ei phedwaredd flwyddyn lwyddiannus, a hynny gyda rhaglen o ddigwyddiadau bwyd ar hyd a lled y ddinas, a phob un yn ymwneud â’r thema ‘dathlu cyfoeth bwyd y cynhaeaf’.
Fel rhan o’r holl ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y mis i arddangos mudiad bwyd da y ddinas, rhoddodd Bwyd Caerdydd arian i 12 o sefydliadau i’w cynorthwyo i ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu’r tymor gyda’r hyn maent yn ei dyfu, ei goginio a’i fwyta.
Yn ystod y penwythnos agoriadol daeth tua 1,000 o bobl i ardal Bwyd Da Caerdydd yng ngŵyl fwyd Amgueddfa Cymru Sain Ffagan a mynychodd 650 o bobl ddigwyddiadau eraill wedi’u trefnu gan Bwyd Caerdydd yn ystod y mis, gan weini a rhannu mwy na 350 o brydau bwyd.
Meddai Cydlynydd Bwyd Caerdydd, Pearl Costello:
“Cawsom adborth gwych gan y sefydliadau rydym wedi’u cefnogi, felly roeddem yn awyddus i roi blas o hynny i holl rwydwaith Bwyd Caerdydd.
“Gan ychwanegu at lwyddiant y tair Gŵyl Hydref flaenorol, mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn ogystal â’r amrywiaeth o brydau bwyd, digwyddiadau a phrofiadau tyfu a gynigiwyd i’n cymunedau.
“Roedd yn bwysig i ni – gan gofio’r heriau amgylcheddol ac economaidd y mae pobl yn eu hwynebu – bod digwyddiadau’r Ŵyl yn cynnig cymorth ymarferol. Drwy rannu straeon am y digwyddiadau, mae’n bosibl gweld sut y daeth pobl at ei gilydd i gyfnewid syniadau a sgiliau ac i rannu bwyd. Mae pob un o’r rhain yn hanfodol os ydym am dyfu, coginio a bwyta deiet mwy tymhorol, cynaliadwy ac iach,” meddai.
Dyma rai o uchafbwyntiau Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd, yn ôl y grwpiau bwyd, tyfu a chymunedol a drefnodd y digwyddiadau:
Ymddiriedolaeth Gymunedol Alhusna – Digwyddiad Rhannu Pryd Bwyd a Chysylltu Teuluoedd
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i deuluoedd du ac ethnig lleiafrifol (BME) lleol ddod at ei gilydd i fwynhau diwrnod mewn amgylchedd cyfeillgar a chael bwyd da. Gan y gall llawer o deuluoedd deimlo’n ynysig, roedd yn gyfle gwych i bawb ymestyn ei rwydwaith, gwneud ffrindiau newydd – a mynychu digwyddiad am ddim yn ystod cyfnod heriol yn economaidd. Roedd pawb a fynychodd yn gwerthfawrogi’r digwyddiad felly diolch yn FAWR i Bwyd Da Caerdydd!
Gerddi Rheilffordd – Dathlu’r Cynhaeaf a Gwneud Bara yn y Clwb Garddio
Roedd ein digwyddiad cyntaf o dan arweiniad gwirfoddolwyr i Ddathlu’r Cynhaeaf yng Ngerddi Rheilffordd yn ffordd o ddiolch i’n cymuned leol am eu cymorth a’u gwahodd i rannu’r cynnydd rydym wedi’i wneud er mwyn creu amgylchedd cymunedol ffyniannus sy’n ymdrechu i ofalu am yr amgylchedd, creu cysylltiad ac ethos o ddysgu bob cenhedlaeth. Roedd rhywbeth i bawb – naill ai drwy wneud tusw o flodau gwyllt, cyfnewid ryseitiau, gwneud potiau papur, cacennau cartref, ardal chwarae naturiol i blant, gwneud bara neu ar ffurf gwobrau raffl, rhoi planhigion a ‘dyfalu faint o hadau coriander’.
Diolch yn fawr i’r cyhoedd am eu haelioni ac am ddod i ddathlu gyda’n tîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd allan yn garddio waeth beth fo’r tywydd yng Nghymru. Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy a phawb yn wên o glust i glust! Llwyddwyd i godi cyfanswm o £170 o’r rhoddion ac rydym wir yn gwerthfawrogi cyfranogiad a chyfraniad pawb, sy’n golygu bod Gerddi Rheilffordd yn gallu parhau i ofalu am ei fannau gwyrdd hyfryd.
Y Pridd a’r Cynnyrch – Tyfu gyda’n Gilydd ar gyfer yr Hydref
Mae Gardd Gymunedol Tyfu gyda’n Gilydd yn swatio ger Eglwys Gyfunol Treganna ar Theobald Road ar hyn o bryd. Darn o dir gwastraff blêr oedd hwn yn wreiddiol ond bellach mae’n ardd fechan, doreithiog sy’n llawn blodau a chynnyrch.
wahoddwyd Louise Gray a Pat Gregory i gynnal gweithdy i’n cymdogion lleol a dangos i ni sut y gallem baratoi ein gardd ar gyfer y gaeaf a’r gwanwyn yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar posibl. Cawsom gymorth y trigolion lleol i blannu ysgellog, winwns, letys a blodau i sirioli’r lle, ac roedd modd iddynt hefyd fynd â llysiau a darnau o berlysiau adref i’w plannu mewn potiau. Drwy fod yn rhan o Ŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd cawsom gyfle i atgyfnerthu ein cysylltiadau lleol mewn prosiect ble y gall ein gardd dyfu o ran maint a chynnyrch dros y blynyddoedd nesaf.
Digwyddiad Codi Arian Cymry Swdan
Profiad hyfryd oedd cael pryd o fwyd cymunedol yn ystod cyfnod anodd iawn a diolch o galon i Bwyd Caerdydd am helpu.
Fforwm Ieuenctid Grangetown – Bwydydd Da y Byd
Daeth Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik i ymweld â ni yn Fforwm Ieuenctid Grangetown ar gyfer ein digwyddiad Bwyd Da Caerdydd. Gwnaethom rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu am fwyd lleol yn ein cymuned amrywiol a rhannu prydau iach o bob cwr o’r byd.
Gwirfoddolwyr Cymunedol Y Sblot – Cwis a Noson Gyrri i Godi Arian
Diolch i’r grant bach gan Ŵyl yr Hydref llwyddodd 54 o ddefnyddwyr gwasanaethau i fynychu Cwis a Noson Gyrri Gwirfoddolwyr Cymunedol Y Sblot yng Nghanolfan STAR, Splott Road. Bu’n ddigwyddiad hynod boblogaidd a chafwyd sawl cais ers hynny i gynnal mwy o nosweithiau tebyg yn y dyfodol.
Y bwyd oedd roliau porc wedi’i dynnu blasus gyda saws barbeciw a saws afal cartref, cŵn poeth cig eidion a chŵn poeth figan gyda winwns wedi’u ffrïo a cholslo, a oedd at ddant a chrefydd pawb – yn arbennig y rhai aeth yn ôl i gael mwy! Roedd gwobr y raffl yn anhygoel hefyd, a roddwyd gan y gymuned, a llwyddo i godi swm sylweddol o arian tuag at yr achlysur Groto Nadolig i’r plant fydd yn cael ei gynnal yn fuan.
Neuadd a Gerddi Cymunedol San Pedr – O’r Hedyn i’r Bwrdd
Cawsom ein hysbrydoli drwy’r cymorth a’r anogaeth a gawsom gan Bwyd Da Caerdydd i gynnal digwyddiad hollol wahanol i’r arfer. Mae’r ffaith bod y gymuned wedi ymuno â ni a mwynhau’r gweithgareddau rydym yn eu cynnig i hyrwyddo bwyta’n iach, tyfu hadau ac ati yn dangos bod angen i ni barhau i addysgu pobl am yr hyn y gellir ei gyflawni waeth beth fo maint y lle – gallwch dyfu bwyd mewn bocs ar silff ffenestr neu ar randir!
Global Gardens – Dathlu’r Tomato
Rydym wedi bod yn dathlu’r gwahanol domatos sydd ar gael yn Global Gardens. Gwnaethom gynnal Treial Tomatos fel rhan o’r digwyddiadau i Ddathlu’r Tomato, a’i nod oedd edrych ar iechyd, cryfder a blas wyth tomato gwahanol.
Yn y Treial Tomatos roeddem yn ystyried iechyd y planhigyn, arferion tyfu, cynhyrchiant a blas. Y math ‘Pink Georgian’ a ‘Gardener’s Delight’ oedd yn gydradd gyntaf. Cytunodd pawb eu bod ill dau yn blanhigion blasus, iach a chynhyrchiol. Er bod ‘Golden Sunrise’ yn un o’r rhai mwyaf cynhyrchiol a’r ‘Black Cherry’ yn flasus iawn, cafodd ‘Pink Georgian’ a ‘Gardener’s Delight’ sgôr uchel ym mhob categori. Rydym yn hynod falch bod ‘Pink Georgian’ wedi cael sgôr uchel gan ei fod yn un o’r mathau traddodiadol cyntaf i ni ei dyfu yn Global Gardens, a rannwyd gan Sebastian ar ôl iddo ymweld â chartref ei bartner yn Georgia.
Cawsom gyfle hefyd i ddathlu amrywiaeth y tomato mewn gweithgaredd cadw hadau wedi’i arwain gan Poppy. Byddwn yn rhannu’r hadau a gadwyd i’r gymuned mewn nifer o ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Cawsom gyfle hefyd i rannu ffa pob blasus wedi’u coginio gan y cogydd a’r blogiwr Vaida One Small Spoon a gallwch ddod o hyd i’r rysáit yma.
Gardd Cegin Grangetown – Dathlu’r Cynhaeaf
Diolch i Bwyd Caerdydd am roi cymorth grant ychwanegol i ni allu cynnal digwyddiad gwych i Ddathlu’r Cynhaeaf i’n gwirfoddolwyr, teuluoedd a ffrindiau a’r gweithwyr anhygoel yn warws Fareshare Cymru. Canolbwynt y diwrnod oedd dathlu’r cynhaeaf mewn sawl ffordd, a hynny ar ffurf gweithgareddau a gemau sy’n canolbwyntio ar fwyd, megis ein cystadleuaeth goginio ‘Aros Barod Coginio’, a’r gemau chwaraeon sef ras sach datws, crempog ac wy ar lwy.
Llwyddodd ein gwirfoddolwyr i goginio bwffe blasus ac roedd gwobr i bawb yn ein raffl Cyfeillgar i’r Blaned. Perfformiad syrcas gan Fiery Jack Family a cherddoriaeth fyw gan Mike Fulthorpe oedd yr adloniant. Roedd yr haul yn tywynnu a phawb yn gwenu. Am ffordd wych o ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr am weithio mor galed fel tîm a helpu Gardd Cegin Grangetown i fod yn wasanaeth mor werthfawr i’n cymuned.
Perllan Caerdydd – Diwrnod yr Afal
Croesawyd teuluoedd i’n digwyddiad gwasgu afalau blynyddol, a’r tro hwn yn Railway Gardens. Roeddem mor lwcus gyda’r tywydd ac roedd cyfle i bobl o bell ac agos gymryd rhan yn y broses o wneud sudd ar fore Sadwrn braf – torri’r ffrwythau, eu malu a’u gwasgu, ac, wrth gwrs, ei flasu! Gwaith tîm yn bendant.
Ar ôl yfed gwydryn o sudd afal ffres, roedd cyfle i bobl fwynhau paned a bwyta danteithion afal cartref – teisen afal o’r Iseldiroedd, strudel o Wlad Tsiec a compote Ffrengig – a defnyddio eu synnwyr blasu i wneud cwis afalau ac enwi 10 math gwahanol. Os hoffech wirfoddoli gyda ni y tymor nesaf neu’n gwybod am goeden a fyddai’n elwa ar gael ei chynaeafu, cysylltwch â ni.
Marchnad Ffermwyr Caerdydd: Pen-blwydd Marchnad Glan yr Afon yn 25 oed
Lansiwyd Marchnad Ffermwyr Glan yr Afon yn wreiddiol ym 1998 ac mae bellach wedi tyfu i fod yn un o brif atyniadau bwyd y brifddinas i drigolion lleol ac i ymwelwyr. Ar ôl dechrau o ddim, cynhelir y farchnad bob penwythnos bellach gyferbyn â Stadiwm y Principality, gyda’r stondinau i’w gweld ar hyd glan yr Afon Taf yn arddangos nwyddau rhai o gynhyrchwyr bwyd gorau Cymru.
I ddathlu pen-blwydd y farchnad yn 25 oed, cafwyd cerddoriaeth fyw gan gerddorion lleol ac arddangosiadau bwyd, gan gynnwys Pettigrew Bakeries yn gwneud bara surdoes a Vicolei Sei yn cynnal tiwtorial blasu siocled.