Heddiw, cafodd Cymru lwyddiant yn ail Seremoni Wobrwyo flynyddol Pys Plîs lle y cyhoeddwyd enwau’r enillwyr a’r ail orau ar gyfer y cynnydd a wnaed yn 2019/2020. Gyda chyfanswm o bum enwebiad, aeth Addunedwyr Pys Plîs o Gymru ymlaen i ennill dwy wobr o blith y saith categori – gyda Caerdydd dod i’r brig yn y Wobr Dinas and CBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ennill y Wobr Cynyddu Llysiau.
Menter arloesol ledled y DU yw Pys Plîs sy’n canolbwyntio’n benodol ar lysiau ac mae’n bartneriaeth sy’n cynnwys The Food Foundation, Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish Scotland, Belfast Food Network a Food NI. Ers i’r prosiect gael ei lansio bedair blynedd yn ôl mae wedi darparu 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau i’n system fwyd gan weithio ar draws pob un o’r pedair gwlad
Gyda nifer y llysiau sy’n cael eu bwyta yn lleihau, nod Pys Plîs yw dod â chynhyrchwyr, manwerthwyr, bwytai, arlwywyr, cyfanwerthwyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd gyda’r nod cyffredin o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau. Ledled y DU, mae dros 100 o Sefydliadau eisoes wedi addo chwarae eu rhan i helpu pawb yn y DU i fwyta dogn ychwanegol o lysiau y dydd fel rhan o ‘Addunedau Llysiau’ Pys Plîs.
Arweiniwyd y seremoni gan Hugh Fearnley Whittingstall ac fe’i recordiwyd yn arbennig yn River Cottage, a heddiw cyhoeddodd enwau’r cwmnïau, y sefydliadau a’r unigolion sy’n arwain y ffordd o ran trawsnewid eu busnesau a’u sefydliadau er mwyn cynyddu’r llysiau sy’n cael eu bwyta.
Mae’r Wobr Dinas Llysiau, a enillwyd gan Gaerdydd, yn cydnabod dulliau effeithiol ac integredig yn seiliedig ar le o gynyddu nifer y llysiau sy’n cael eu bwyta ar lefel leol ar gyfer dinasoedd sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch Dinasoedd Llysiau tra bod y Wobr Cynyddu Llysiau
“Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi ennill y Wobr Dinasoedd Llysiau heddiw – cyflawniad gwych arall i’r ddinas a gwobr arall sy’n cydnabod y gwaith anhygoel sy’n digwydd ledled Caerdydd,” meddai Pearl Costello, Cydlynydd Sustainable Food Places yng Nghaerdydd.
“Fe wnaeth Bwyd Caerdydd gyd-greu yr ymgyrch Dinasoedd Llysiau gyda Sustainable Food Places fel rhan o’r fenter Pys Plîs ehangach ac mae bellach yn un o brif ymgyrchoedd Sustainable Food Places gyda 25 o leoedd ledled y DU yn cymryd camau i gynyddu’r llysiau sy’n cael eu bwyta,” ychwanega Pearl. “Datganwyd bod Caerdydd yn Ddinas Llysiau yn 2017, gan ddarparu strwythur ymbarél ar gyfer llawer o’r gwaith anhygoel yn ymwneud â bwyd sy’n cael ei ddatblygu yn y ddinas ac fel rhan o ymgyrch Dinasoedd Llysiau Bwyd Caerdydd mae gennym bellach 26 o addunedwyr, 39 wedi’u cofrestru ar y platfform a chyfanswm o 46 o addunedau – ac amcangyfrifir y bydd 123,000 o ddognau ychwanegol o lysiau yn cael eu gweini bob blwyddyn yng Nghaerdydd os cyflawnir yr holl addunedau hynny.
“Mae bwytai wedi bod yn gweithio ar y cyd, er enghraifft ar leihau gwastraff llysiau ac mae Marchnadoedd Ffermwyr wedi bod yn ehangu eu cynnig llysiau a’u lleoliadau marchnad. O 2019 ymlaen, roedd plant yn ysgolion Caerdydd hefyd yn cael cyfran ychwanegol o lysiau gyda’u cinio heb unrhyw gost ychwanegol, ”meddai Pearl. “Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni – yn enwedig gan fod y wobr hon yn dilyn ymlaen o Gaerdydd yn ennill statws Arian Sustainable Food Places yn ddiweddar, gan gydnabod gwaith arloesol y ddinas o ran hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.”
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd yn dathlu buddugoliaeth heddiw ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn y categori Arloesi yn seremoni wobrwyo’r llynedd.
Mae’r Wobr Cynyddu Llysiau yn cydnabod y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cynyddu’r llysiau yr oeddent yn eu gweini o flwyddyn i flwyddyn – cynnydd syfrdanol o 701.7% mewn dim ond un o’i safleoedd.
“Mae’n bleser gennyf weld Caerdydd a’n Bwrdd Iechyd yn cael eu cydnabod am y gwaith gwych a wnaed i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar ddewisiadau iach,” dywed Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ymrwymedig i wella iechyd a lles ei staff a’r boblogaeth leol, gan ganolbwyntio’n benodol ar amgylchedd bwyd iachach. Rwyf mor falch o’r hyn y mae ein timau wedi’i gyflawni, a’r ffaith mai ni yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’n ffurfiol y Safonau Bwyta’n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu, sy’n canolbwyntio ar wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.”
Dywed Helen Griffith, cadeirydd Grŵp Llywio Safonau Bwyta’n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’n wych clywed bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod am Wobr Pys Plîs. Gwnaed cryn dipyn o waith i gynyddu faint o lysiau y mae’r bobl hynny sy’n prynu bwyd ar draws safleoedd Caerdydd a’r Fro yn eu bwyta. Fel rhan o’r Safonau Bwyta’n Iach a’r Addewid Pys Plîs, y nod yw gosod y safonau uchaf posibl, gan gynnwys mwy o lysiau mewn prydau poeth, yn ogystal ag yn y cynnyrch a wneir yn ffres sydd ar gael i’w brynu ar safleoedd bwyd y Bwrdd Iechyd. Dylai pawb sy’n rhan o’r fenter fod yn falch iawn o’r gwaith hyd yma.”
Pledgers from Wales made the shortlist in five categories in total, including Castell Howell being shortlisted in the Nghategori Arloesi Pys Plis a Lantra a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ar y rhestr fer yng Nghategori Cymdeithas Dda Pys Plis.
Synnwyr Bwyd Cymru sefydliad sy’n gweithio i ddylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru – sy’n arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n rheoli 8 o addunedwyr cenedlaethol, 24 o addunedwyr lleol drwy Bwyd Caerdydd a 25 o addunedwyr Dinas Llysiau mewn partneriaeth â Sustain/Sustainable Food Places.
Mae’r Gwobrau Pys Plîs yn dilyn ymlaen o Uwchgynhadledd Llysiau Pys Plîs a gynhaliwyd ar 18 Mehefin – diwrnod o drafodaethau, gyda’r sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar bolisi garddwriaeth a buddsoddi mewn garddwriaeth, a’r a Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd wedi curadu Ffres! yn ddiweddar – Gŵyl Lysiau gyntaf Cymru a oedd yn amlygu ac yn arddangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws gerddi, ffermydd, cymunedau, sefydliadau a busnesau Cymru.
“Gan fod 2021 yn Flwyddyn Ryngwladol Ffrwythau a Llysiau’r Cenhedloedd Unedig a chyda COP26 yn digwydd yn Glasgow ym mis Tachwedd, mae’n wych gweld cymaint o ffocws a chyffro am yr hyn yr ydym yn ei fwyta,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen yn Synnwyr Bwyd Cymru.
“O ran iechyd y cyhoedd, mae ein deiet yn arwain at lefelau uchel o ordewdra, diabetes math 2 a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â deiet – ac fel mae pawb ohonom yn gwybod, mae angen i ni fwyta mwy o lysiau. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn darparu’r rhaglen Pys Plîs yng Nghymru, sy’n ymchwilio i’r ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi sydd â’r potensial i gynyddu’r llysiau a fwyteir mewn modd cynaliadwy, ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weld newidiadau ar draws ein system fwyd er mwyn cefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach.
“Rydym yn defnyddio dull yn seiliedig ar systemau o ymdrin â bwyd a ffermio, gan greu perthnasoedd gwaith cryf â sefydliadau cyhoeddus, breifat a’r rhai sy’n ymwneud â chymdeithas sifil yng Nghymru, a dyma pam rwy’n falch iawn bod y gwaith a wnaed gan ein haddunedwyr a’n partneriaid yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn y gwobrau hyn sy’n cwmpasu’r DU gyfan. Mae’n wych gallu dathlu gwaith unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau ymroddedig a brwdfrydig – mae pob un ohonynt yn gweithio’n galed iawn i hyrwyddo llysiau, gan helpu nid yn unig iechyd pobl ond yr amgylchedd hefyd.”
Ychwanegodd Rebecca Tobi, rheolwr prosiect Pys Plîs y DU: “Mae’n wych gweld cymaint o sefydliadau yn gwneud cynnydd mor arbennig o ran hyrwyddo, gweini a gwerthu mwy o lysiau. Yn enwedig yn ystod yr hyn sydd, yn ddiau, wedi bod yn un o’r blynyddoedd anoddaf erioed i sector bwyd y DU. Fodd bynnag, mae gennym dipyn o ffordd i fynd cyn i ni gyrraedd ein nod a chael pawb yn y DU i fwyta mwy o lysiau, a bydd cefnogaeth barhaus gan sefydliadau sy’n addunedwyr yn hanfodol i’n helpu i fynd ymhellach yn gyflymach. “