Food Cardiff loading now

Ar gyfer Unigolion ac AelwydyddFor Individuals and Households

Credwn fod gan bawb hawl i gael bwyd da. Un o’n Nodau Bwyd Da allweddol ar gyfer y ddinas yw sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd maethlon, iach sy’n ddiwylliannol briodol, a’u bod yn gallu dewis a fforddio bwyd o’r fath.

Ond os ydych yn cael trafferth fforddio bwyd neu gael gafael ar fwyd, mae nifer o systemau ar gael i’ch helpu, ac rydym wedi’u rhestru isod.

Gall llawer o sefydliadau yn y gymuned helpu gyda chael gafael ar fwyd. Gall llawer o sefydliadau yn y gymuned helpu gyda mynediad at fwyd. Mae llawer o’r rhain wedi’u rhestru yn yr Adran Help Yn Eich Ardal Chi ar wefan Cyngor Ariannol Caerdydd

Ar gyfer Prosiectau Bwyd

Mae Bwyd Caerdydd yn rhedeg rhwydwaith o’r enw Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd. Mae’r grŵp yn cynrychioli nifer o wahanol fathau o brosiectau sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau ac sy’n cwmpasu ffyrdd amrywiol o weithio, ac mae’n rhannu’r nodau cyffredin hyn:

  • Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad at fwyd maethlon, iach sy’n ddiwylliannol briodol, a gallu dewis a fforddio bwyd o’r fath.
  • Ein nod yw cynyddu mynediad at fwyd da, dod â phobl ynghyd a lleihau ynysu cymdeithasol.
  • Rydym yn mabwysiadu dull o weithio sy’n seiliedig ar le ac sy’n cael ei arwain gan y gymuned

Yn ogystal ag aelodau o dimau’r prosiect, mae’r Gydweithfa hefyd yn agored i gefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phrosiectau bwyd cymunedol, er enghraifft Adran Deieteg Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro, Ysgol Busnes Caerdydd a C3SC.

Mae’r Gydweithfa yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i rannu gwybodaeth ac adnoddau, ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chefnogi ei gilydd. Mae’r aelodau hefyd yn cydweithio i gydlynu a chyflawni prosiectau, fel cael gafael ar fwyd.

I ymuno â’r Gydweithfa, cysylltwch â foodsensewales@wales.nhs.uk gan roi Cydweithfa Fwyd Cymunedol Caerdydd yn nheitl y neges