Food Cardiff loading now

Astudiaeth Achos: Addunedau Bwyd Da The Secret Garden Café

Ein hymgyrch #BwydDaCaerdydd yw ein cenhadaeth i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU – drwy ofyn i bobl o bob cefndir i ‘wneud adduned’ a fydd yn helpu Caerdydd i gael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy erbyn diwedd y flwyddyn 2024.

Yn ein blog diweddaraf, rydym yn edrych yn fanwl ar y rhan y mae The Secret Garden Café yn ei chwarae ym Mudiad Bwyd Da Caerdydd. Yn swatio yng nghanol Parc Bute, mae’r caffi yn esiampl o gynaliadwyedd, defnydd o fwyd yn ei dymor ac ymgysylltu â’r gymuned. O dalu cyflog byw i brynu cynhwysion organig, lleol, mae’r caffi yn enghraifft o sut y gall busnesau weithredu mewn modd cyfrifol a phroffidiol, a helpu i wneud Caerdydd yn ddinas fwyd fwy cynaliadwy ar yr un pryd.

Ymrwymiad i Gyflogau Teg a Llesiant Gweithwyr

Mae The Secret Garden Cafe yn ymroddedig i sicrhau bod ei staff yn cael tâl anrhydeddus, drwy dalu cyflog byw i bob gweithiwr ac, mewn llawer o achosion, gyflogau uwch fyth. Er nad yw wedi’i achredu eto, mae’r ymrwymiad hwn i dalu cyflog teg yn adlewyrchu cydnabyddiaeth y caffi o waith caled ei staff a’r costau byw uchel. Nid mater o gyflog teg yn unig yw’r cyflog byw; mae’n ymwneud â meithrin gweithlu cadarnhaol a brwdfrydig, sydd yn ei dro yn gwella profiad cyffredinol y cwsmeriaid.

Defnyddio Cynhwysion Lleol, Organig

Un o egwyddorion craidd The Secret Garden Cafe yw defnyddio cynhwysion lleol, organig. Yn ogystal â chefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru, mae hyn hefyd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael bwyd sydd mor ffres ac iach â phosibl. Mae ymrwymiad y caffi yn cynnwys:

  • – Llaeth a Menyn: Organig o ffermydd Cymru.
  • Llysiau a Phorc: Organig gan gyflenwyr Cymreig lleol.
  • Caws a Siytni: Yn cynnwys cawsiau organig Cymreig fel Perl Wen a siytni lleol gan Penylan Preserves.
  • Bara a Chynnyrch wedi’i Bobi: Opsiynau ffres, organig a fegan gan bobyddion lleol fel Nata and Co, ac Alex Gooch.
  • Te a Chreision: Te lleol gan gwmni Waterloo Tea a chreision wedi’u gwneud o datws a dyfwyd yn lleol, wedi’u prynu’n uniongyrchol gan ffermwyr.
  • Wyau: Wyau maes yn uniongyrchol o fferm ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r ffocws hwn ar ffynonellau lleol ac organig nid yn unig yn byrhau’r gadwyn gyflenwi ond hefyd yn lleihau’r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â chludo nwyddau.

Cefnogi’r Gymuned Leol

Mae gan The Secret Garden Cafe wreiddiau dwfn yn y gymuned leol, ac mae’n cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau elusennol a phrosiectau cymunedol. Ymhlith yr ymdrechion nodedig mae:

  • Perllan Gymunedol Parc Bute: Gwirfoddoli a chodi bron i £10,000 i greu perllan gymunedol newydd.
  • Rhoddion i Ymddiriedolaethau Natur: Cyfrannu bron i £6000 i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt De Cymru.
  • Ymgyrch Choose Love: Casglu rhoddion ar gyfer y sefydliad cymorth dyngarol hwn.
  • Prosiectau Celf Cyhoeddus: Cydweithio ag ysgol uwchradd Cathays i ddod â chelf cyhoeddus i Barc Bute.
  • ddurno Coed Nadolig: Gwahodd y cyhoedd i addurno coeden Nadolig a rhoi £1 am bob addurn i elusen leol, gydag elusen wahanol yn cael ei dewis bob blwyddyn.

Cyfathrebu Arferion Bwyd Da

Mae tryloywder a chyfathrebu yn elfennau allweddol o The Secret Garden Cafe. Mae’n gwneud ymdrech i hysbysu cwsmeriaid am ei arferion cynaliadwy drwy arwyddion, y cyfryngau cymdeithasol, deunydd cyfathrebu uniongyrchol, a hyfforddiant i’r staff. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth, mae hyn hefyd yn annog cwsmeriaid i gefnogi arferion cynaliadwy a’u mabwysiadu eu hunain.

Lleihau Gwastraff Bwyd

Mae The Secret Garden Cafe yn ymfalchïo mewn bod yn fusnes nad yw’n cynhyrchu llawer o wastraff bwyd. Drwy gynnig bwydlen hyblyg y mae modd ei haddasu i gynnwys bwyd dros ben, mae’n lleihau gwastraff yn effeithiol. Ymhlith y strategaethau allweddol mae:

  • Rheoli Stoc yn Ofalus: Osgoi gor-archebu a defnyddio rhewgelloedd i storio cynnyrch dros ben.
  • heoli Dognau: Monitro maint dognau i leihau gwastraff ar blatiau.
  • Bocsys Cludfwyd i Gwsmeriaid: Cynnig bocsys i gwsmeriaid fynd â bwyd dros ben adref gyda nhw.
  • Coginio Creadigol: Cogyddion yn ychwanegu prydau arbennig at y fwydlen er mwyn atal cynhwysion rhag mynd yn wastraff a defnyddio pob rhan o lysieuyn, fel dail blodfresych a choesynnau brocoli.

Lleihau Deunydd Pacio Untro

Mae The Secret Garden Cafe wedi ymrwymo i leihau deunydd pacio untro a hyrwyddo dewisiadau eraill y gellir eu hailddefnyddio. Mae’r ymdrechion yn cynnwys:

  • Cynhwysion a Chynhyrchion Glanhau y Gellir eu Hail-lenwi: Swmpbrynu eitemau fel blawd, cnau, a ffrwythau sych, a defnyddio cynhyrchion glanhau y gellir eu hail-lenwi.
  • Cynnig Cymhellion ar gyfer Cwpanau Amldro: Cynnig diodydd poeth am bris gostyngol pan fydd cwsmeriaid yn dod â’u cwpanau amldro eu hunain.
  • Cynhyrchion Diblastig: Sicrhau bod yr holl gynwysyddion cludfwyd, bagiau creision, papur lapio lolis iâ, a phecynnau diodydd oer yn ddiblastig.

Ffynonellau Moesegol a Chynaliadwy

Mae’r caffi’n prynu ei goffi gan gyflenwyr dielw, organig a chanddynt ardystiad B Corp ac sy’n cefnogi elusennau amrywiol. Mae hefyd wedi creu ei goffi ei hun, sef Skylark ‘The Orchard Blend’, gan godi arian ar gyfer perllan gymunedol Parc Bute.

Mae’r holl de yn de masnach deg, a defnyddir Suma, cwmni cydweithredol, i gael cyflenwadau ychwanegol. Rhoddir cyfran o’r gwerthiant diodydd poeth i Ymddiriedolaeth Natur De Cymru, gan gefnogi cadwraeth amgylcheddol ymhellach.

Mae tua 80% o’r cynhwysion a ddefnyddir gan The Secret Garden Cafe yn organig/yn cefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i natur. Mae hyn yn hynod bwysig o ran helpu i liniaru’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd yn ogystal â chynnig bwyd o ansawdd uwch sy’n cynnwys mwy o faetholion, gan gyfrannu at briddoedd iach.

Cynnig Bwyd Iach a Maethlon

Mae hybu bwyta’n iach yn flaenoriaeth i The Secret Garden Cafe. Mae’n sicrhau bod pob pryd yn cynnwys salad ffres, cartref, tymhorol a chawliau sy’n llawn llysiau. Mae 85% o’r fwydlen yn llysieuol a 50% yn fegan, gan ganolbwyntio ar brydau swmpus, maethlon heb unrhyw ychwanegion artiffisial.

Gweini Mwy o Brydau Sy’n Gyfeillgar i’r Blaned

Mae bwydlen The Secret Garden Cafe yn cynnwys porc organig Cymreig a chawsiau o Brydain, gan gynnwys Perl Wen, sef caws brie o Gymru. Rhoddir pwyslais ar ddewisiadau llysieuol a fegan sy’n helpu i leihau effaith amgylcheddol yr arlwy. Mae’n osgoi bwyd sothach, gan ddewis prydau iach, cartref yn lle hynny.

Buddsoddi mewn Arferion Cynaliadwy

Mae holl benderfyniadau prynu The Secret Garden Cafe yn seiliedig ar feini prawf cynaliadwyedd, gan gynnwys defnyddio cynhyrchwyr annibynnol lleol, bach, organig, masnach deg, cydweithredol, ac eitemau y gellir eu hail-lenwi. Mae’n blaenoriaethu cynhyrchion tymhorol a chyflenwadau glanhau bioddiraddadwy i leihau niwed amgylcheddol.

Os oes gennych chi neu eich busnes ddiddordeb mewn gwneud adduned a fydd yn helpu Caerdydd i gael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy erbyn y flwyddyn 2024, darllenwch fwy a chofrestrwch yma.