Food Cardiff loading now
Healthy Cooking

Ar eich marciau, barod… Mae Coginio’n Iach yn ôl

Mae cystadleuaeth goginio, sy’n gosod cogyddion bwyd iach gorau Caerdydd yn erbyn ei gilydd, yn ôl.

Mae tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd, yn chwilio am 50 o aelwydydd sy’n barod i ymateb i’r her o gynhyrchu prydau maethlon a blasus yn seiliedig ar ryseitiau a ddatblygwyd gan Dîm Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bydd y fenter yn dechrau ddechrau mis Rhagfyr ac yn dilyn prosiect coginio iach llwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach eleni pan gafodd herwyr y dasg o greu gwerth wythnos o fwyd blasus i’r teulu drwy ddilyn y gwersi fideo ar-lein neu gardiau ryseitiau hawdd eu dilyn ac yn ysgafn ar y boced.

Unwaith eto, bydd yr hanner cant o aelwydydd sy’n cymryd rhan yn yr her ddiweddaraf, gyda chefnogaeth Cronfa Mynd i’r Afael â Thlodi Bwyd a Mynd i’r Afael ag Ansicrwydd Bwyd Llywodraeth Cymru, yn cael popeth sydd ei angen arnynt – gan gynnwys cynhwysion, offer sylfaenol a chyfarwyddiadau cam wrth gam – i gynhyrchu pum pryd iach y gall y teulu i gyd eu mwynhau.

Bwyd Caerdydd yw partneriaeth bwyd ardal y ddinas sy’n cydnabod yr effaith enfawr y mae bwyd yn ei gael ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, a’r amgylchedd hefyd. Mae’r mudiad yn hyrwyddo bwyd sy’n dda i bobl, yn dda i’r lle rydyn ni’n byw, ac yn dda i’n planed yn ogystal â bod yn fforddiadwy ac yn flasus.

Gall aelwydydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr her ddarganfod mwy a gwneud cais trwy e-bostio advicehub@cardiff.gov.uk neu ffonio 029 2087 1071.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: “Roedd ein her coginio iach yn ystod y gwanwyn yn hynod o lwyddiannus ac rydym yn falch iawn o allu cynnig cyfle i fwy o aelwydydd ledled y ddinas gymryd rhan yn y diweddaraf yn ein cyfres o heriau.

“Mae’n wych gweithio mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd i hyrwyddo arferion coginio a bwyta iach, cost-effeithiol ymhlith trigolion. . Cyn belled ag y bo modd, byddwn yn defnyddio cynhwysion lleol ar gyfer y ryseitiau rydym am i gystadleuwyr eu gwneud.

“Roedd y safon yn uchel iawn yn yr her yn gynharach eleni ac rwy’n siŵr na fydd y tro hwn yn wahanol. Ond nid yw hynny’n golygu bod rhaid i chi fod yn arbenigwr i gymryd rhan – nod yr her yw cael pobl i goginio gyda’i gilydd fel teuluoedd, cael hwyl ac annog pobl i wneud dewisiadau bwyd iach sy’n rhesymol o ran pris.”

Ychwanegodd Pearl Costello, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd: “Mae Bwyd Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o fenter bwyta’n iach mor wych, gan annog aelwydydd ledled y ddinas i goginio amrywiaeth o brydau blasus, iach a chynaliadwy.

“Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn – ac mae menter fel hon yn dangos hyn yn ymarferol. Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn dysgu sgiliau coginio newydd, sut i baratoi prydau iach, maethol a chost-effeithiol – yn ogystal â chael llawer o hwyl ar hyd y ffordd. Rwy’n edrych ‘mlaen yn fawr at weld sut mae’r 50 aelwyd yn ymateb i’r her a’r prydau maen nhw wedi’u creu.”

Unwaith y bydd y 50 aelwyd wedi ymrwymo i’r her a bod eu bwyd wedi cyrraedd, bydd gan deuluoedd tan X Rhagfyr i anfon lluniau o’u campweithiau coginio advicehub@cardiff.gov.uk. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar sail cyflwyniad a pha mor flasus y mae’r prydau bwyd yn edrych.

Mae tîm Cyngor Ariannol Caerdydd yn rhoi cymorth a chyngor i drigolion sydd â phryderon ariannol. Mae’r tîm yn arbenigwyr ar ddarparu cymorth ar gyllidebu, cynyddu incwm, budd-daliadau, grantiau a gostyngiadau, cyngor ar ddyledion a mwy. Mae’r tîm yn arbenigwyr ar ddarparu cymorth ar gyllidebu, cynyddu incwm, budd-daliadau, grantiau a gostyngiadau, cyngor ar ddyledion a mwy.

FindDysgwch fwy am Dîm Cyngor Ariannol Caerdydd trwy fynd i www.cardiffmoneyadvice.co.ukneu ffoniwch 029 2087 1071, e-bostiwch advicehub@cardiff.gov.uk