Mae caffis a grwpiau cymunedol ledled Caerdydd yn cynnal swperau cymunedol. Maen nhw’n ffordd wych o wneud cysylltiadau newydd drwy fwyd.
Yn aml yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, maen nhw’n tueddu i fod yn ddigwyddiadau am ddim neu rai sy’n gofyn i bobl dalu’r hyn maen nhw’n gallu ei fforddio.
Mae gan lawer yng Nghaerdydd ddibenion eraill, megis ailddefnyddio bwyd a fyddai fel arall wedi mynd yn wastraff, cefnogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, neu helpu pobl i wneud cysylltiadau newydd yn y ddinas.
Rhestrir rhai o’r sefydliadau sy’n cynnal swperau cymunedol rheolaidd yn y dolenni isod.