Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae marchnad wedi bod yng nghanol dinas Caerdydd ers 1891, ble mae masnachwyr yn gwerthu ffrwythau a llysiau ffres, sbeisys, cig, pysgod a helgig. Yn 2023, cyhoeddwyd cynlluniau newydd cyffrous i wneud gwaith adfer sylweddol ar y Farchnad Ganolog hanesyddol, gan greu mwy fyth o le ar gyfer bwyd a diod.

Ers 1998, mae Marchnad Ffermwyr wedi bod yn cael ei chynnal ar lannau’r afon Taf yng Nglan yr Afon bob dydd Sul, gyda Marchnadoedd Ffermwyr wythnosol yn cael eu hychwanegu’n ddiweddarach yn y Rhath ar ddydd Sadwrn ac yn Rhiwbeina ar ddydd Gwener. Mae’r marchnadoedd hefyd yn cael eu cynnal yn ystod y tymor ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Dyna gannoedd o dyfwyr a chynhyrchwyr sy’n dod â bwyd ffres i ganol y ddinas bob wythnos – yn aml mor ffres fel bod y ffrwythau a’r llysiau wedi’u casglu y bore y cânt eu gwerthu.

Gall marchnadoedd fod yn werth da iawn am arian – dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi y byddwch yn ei brynu – ac rydych yn gwybod yn union o ble mae eich bwyd yn dod oherwydd mai’r person sy’n ei werthu fel arfer yw’r person wnaeth dyfu neu wneud y cynnyrch.

Rydych hefyd yn cefnogi busnesau lleol, gan gwtogi ar gludo a storio bwyd, a gallu casglu awgrymiadau ar sut i baratoi a choginio eich bwyd.

Hefyd, mae’n llawer mwy o hwyl na cherdded o amgylch yr un hen archfarchnad!