Bob blwyddyn o gwmpas y byd rydym yn creu mwy na 300 miliwn o dunelli o blastig, ac mae hanner hynny’n blastig untro. Mae poteli plastig yn broblem enfawr, gyda 1.2 miliwn ohonynt yn cael eu gwerthu bob munud o gwmpas y byd. Ond yma yn y DU mae gennym ddŵr yfed o’r safon uchaf yn y byd, felly nid oes angen i ni fod yn defnyddio’r holl blastig yma.
Mewn astudiaeth fyd-eang ddiweddar o frandiau dŵr potel canfuwyd gronynnau bach o blastig (microblastigau) mewn dros 90 y cant o samplau. Yn 2020, cadarnhaodd National Geographic fod gronynnau plastig llai gweladwy a mwy treiddiol wedi ymledu i bron bob twll a chornel o’r Ddaear, o ddyfnderoedd y môr i fynyddoedd uchaf yr Alpau; mae rhai microblastigau mor fach nes eu bod yn y llwch sy’n chwythu o amgylch y blaned, yn uchel yn yr atmosffer.
Ond nid plastig yn unig sy’n niweidio’r amgylchedd; mae maint y gwastraff yn achosi problem. Yn y DU, mae ein harfer o brynu ‘prydau i fynd’ yn cyfrannu at gynhyrchu 11 biliwn o eitemau o wastraff y flwyddyn. Os edrychwn ar gwpanau coffi untro fel enghraifft; rydyn ni’n defnyddio 2.5 biliwn bob blwyddyn, ac mae ymchwil yn awgrymu bod llai nag 1 bob 400 yn cael eu hailgylchu – sy’n golygu mai eu tynged yw cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi, i losgyddion sy’n llygru’r amgylchedd, neu hagru’r amgylchedd.
Ond mae yna bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu.
- Gall yr Ap Refill eich helpu i ddod o hyd i leoedd i siopa, bwyta ac yfed lle nad yw deunydd pacio dibwrpas yn cael ei ddefnyddio; o siopau coffi a siopau cludfwyd i siopau groser a siopau ffrwythau a llysiau.
- Yn ogystal â helpu’r amgylchedd, gall defnyddio cwpan amldro yn lle cwpanau coffi untro arbed arian i chi hefyd – mae llawer o gaffis lleol yn cynnig gostyngiad pan fyddwch chi’n dod â’ch cwpan eich hun.
- Mae swm syfrdanol o 7.7 biliwn o boteli dŵr plastig yn cael eu defnyddio bob blwyddyn yn y DU. Drwy gario potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio yn lle hynny, byddwch yn rhan o gymuned gynyddol o bobl sydd wedi ymrwymo i leihau’r cyfanswm hwnnw.
- Chwiliwch am gyfleoedd i siopa mewn llefydd sy’n defnyddio llai o ddeunydd pacio; rhowch gynnig ar siopau ffrwythau a llysiau a manwerthwyr lleol sy’n cynnig ffrwythau a llysiau diblastig, opsiynau ail-lenwi ac ati.
- Cysylltwch â’ch caffi, bwyty, siop groser leol ac ati, a gofynnwch iddyn nhw leihau eu defnydd o ddeunydd pacio untro o blaid opsiynau mwy cynaliadwy.
Gadewch i ni osod esiampl, a gwneud ‘lleihau, ailddefnyddio, ail-lenwi ac ailadrodd’ y norm cymdeithasol newydd yma yng Nghaerdydd.
- City to Sea – Newid i Eitemau y Gellir eu Hailddefnyddio* (opens new window)
- Cardiff Journalism – 7 Awgrym i Leihau Plastig* (opens new window)
- HungryCityHippy – Canllaw i Siopau Diwastraff* (opens new window)
- HungryCityHippy – Siopau Coffi Caerdydd yn Croesawu Cwpanau y Gellir eu Hailddefnyddio* (opens new window)