Gwelwyd twf aruthrol yn y diwylliant cyfleustra yn y DU ers y 1990au a chynnydd pellach o ganlyniad i’r cyfnodau clo diweddar.
Mae hyn yn newyddion drwg i’r amgylchedd. Ni fydd mwyafrif helaeth y deunydd pacio cyfleustra a chynwysyddion untro byth yn cael eu hailgylchu; mae llawer wedi’u gwneud o blastig / eu leinio â phlastig, neu wedi’u gwneud o ddeunyddiau ‘biobydradwy’ a deunyddiau y gellir eu compostio sydd angen amodau arbennig i bydru (ni ellir ymdrin â’r rhain mewn cyfleusterau ailgylchu lleol eto). Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o’n heitemau untro yn halogi ffrydiau ailgylchu presennol, yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu i gael eu llosgi neu’n cael eu gadael i hagru’r amgylchedd.
Yn wir, mae cynhyrchion plastig untro fel cyllyll a ffyrc, poteli diod, deunydd lapio bwyd a chynwysyddion yn cyfrif am bron i hanner yr holl sbwriel o’r tir sy’n llygru ein moroedd.
Ond mae ‘na ateb syml; mae arbenigwyr wedi datgan bod newid i ddefnyddio eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn gwbl ddiogel, ar ôl y pandemig.
O ganlyniad, mae busnesau lletygarwch ledled Caerdydd yn caniatáu i fwyfwy o gwsmeriaid ddefnyddio eu cynwysyddion eu hunain ar gyfer prydau i fynd a diodydd. Mae eraill sy’n gwneud yr un peth yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer yr Ap Refill i helpu cwsmeriaid ddefnyddio’u hopsiynau diblastig nad ydynt yn cynnwys deunydd pacio, ac fel llwyfan marchnata am ddim i helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chynyddu gwerthiant.
Ac mewn swyddfeydd a gweithleoedd o amgylch y ddinas, mae staff yn cael cynnig opsiynau arlwyo mwy cynaliadwy – gan roi’r gorau i brynu coffi i fynd a phrydau tecawê mewn pecynnau untro
Ni waeth pa fath o fusnes yr ydych yn ei redeg, dyma rai syniadau ar gyfer cwtogi ar ddeunyddiau untro:
- Rhowch y gorau i ddefnyddio deunydd pacio neu blatiau a chyllyll a ffyrc untro; defnyddiwch lestri, cyllyll a ffyrc a gwydrau go iawn lle bynnag y bo modd.
- Defnyddiwch gyflenwyr sy’n darparu deunydd pecynnu cynaliadwy e.e. llaeth sy’n dod mewn poteli gwydr y gellir eu dychwelyd.
- Os ydych yn fusnes lletygarwch, cynigiwch ostyngiad i gwsmeriaid sy’n dod â’u bocsys bwyd neu gwpanau coffi eu hunain fel cymhelliant.
- Peidiwch â defnyddio deunydd pacio untro fel cyfle marchnata; e.e. ceisiwch osgoi eitemau untro wedi’u brandio. Yn lle hynny, gallech geisio creu amrywiaeth o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio wedi’u brandio i’w gwerthu i’ch cwsmeriaid.
- Cofrestrwch ar gyfer yr Ap Refill a dod yn bartner; cynigiwch ail-lenwi cwpanau cwsmeriaid gyda dŵr tap am ddim, fel na fydd angen iddyn nhw brynu dŵr potel.
I gael rhagor o ysbrydoliaeth, edrychwch ar yr adnoddau isod.