Mae Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd ar y gorwel, a bydd Bwyd Caerdydd yn dechrau’r dathliadau gyda’r Ardal Bwyd Da yng Ngŵyl Fwyd Sain Ffagan (12-13 Medi). Dyma eich cyfle i fod yn rhan o un o brif wyliau bwyd Cymru.
Rydym yn galw ar bob sefydliad, grŵp cymunedol, unigolyn neu fusnes i gyflwyno eu syniadau ar gyfer digwyddiadau, gweithdai neu sgyrsiau ar gyfer Ardal Bwyd Da Caerdydd. Oes gennych chi stori i’w hadrodd am fwyd cynaliadwy? Allwch chi gynnal arddangosiad arbenigol? Neu weithdy diddorol i ysbrydoli eraill?
Y llynedd, roedd Ardal Bwyd Da Caerdydd yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ac roedd yno amrywiaeth eang o sesiynau a stondinau.
P’un a ydych yn fusnes, yn grŵp cymunedol, neu’n unigolyn, gallwch wneud cais am stondin neu i gynnal gweithdy neu arddangosiad. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos eich gwaith, cysylltu â’r gymuned, a chyfrannu at enw da Caerdydd fel dinas fwyd gynaliadwy flaenllaw.
Gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, eich bod yn fodlon cynnal asesiad risg, ac os ydych yn cynnig samplau bwyd, bod gennych dystysgrif hylendid bwyd. A nodwch na ellir gwerthu unrhyw gynhyrchion fel rhan o’r sesiynau hyn.
Cwblhewch y ffurflen hon erbyn 1 Mehefin er mwyn bod yn rhan o Ardal Bwyd Da Caerdydd!