Ein hymgyrch #BwydDaCaerdydd yw ein cenhadaeth i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU – drwy ofyn i bobl o bob cefndir i ‘addunedu‘ a fydd yn helpu Caerdydd i gael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy erbyn diwedd 2024.
Yn ein blog diweddaraf, rydym yn edrych ar yr addunedau y mae Grounds for Good – busnes lleol sy’n ailddefnyddio coffi mâl ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod, cynhyrchion cartref a chynhyrchion ffordd o fyw – wedi’u gwneud i gefnogi’r nodau hyn.
1. Cefnogi Cynhyrchwyr Lleol
Un o brif addunedau Grounds for Good yw prynu eu cyflenwadau a’u gwasanaethau gan gynhyrchwyr lleol, lle bynnag y bo modd. Drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau lleol, mae’r cwmni’n sicrhau ei fod yn darparu cynnyrch o’r safon uchaf gan hybu’r economi leol ar yr un pryd. Mae hyn hefyd yn ei helpu i leihau ei ôl troed carbon gan gael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd sy’n gysylltiedig â chludo nwyddau dros bellteroedd maith.
2. Lleihau ac Ailddefnyddio Deunydd Pacio
Mae Grounds for Good wedi ymrwymo i leihau gwastraff, gan gynnwys defnyddio deunydd pacio mewn ffordd gyfrifol. Mae’n gwneud ymdrech i ailddefnyddio’r holl ddeunydd pacio, lle bo modd, ac yn ceisio osgoi plastig, gan annog eraill i wneud yr un peth. Drwy ailddefnyddio’r deunyddiau, mae’r cwmni’n cyfrannu at economi gylchol, gan ymestyn oes adnoddau a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
3. Lleihau Gwastraff Bwyd a Hyrwyddo Uwchgylchu
Yn ei ymdrechion i fynd i’r afael â gwastraff bwyd, mae Grounds for Good yn casglu ac yn ailddefnyddio coffi mâl ac yn ei drawsnewid mewn ffordd greadigol yn gynhyrchion bwyd a diod newydd arloesol a chyffrous i’w manwerthu – yn amrywio o goffi i siocled a gin.
4. Hyrwyddo Arferion Bwyd Iach
Mae Grounds for Good wedi ymrwymo i rannu arferion bwyd da, megis uwchgylchu bwyd sy’n cyd-fynd yn dda â nodau Bwyd Caerdydd. Mae coffi mâl sydd wedi’i ddefnyddio yn cynnwys llawer o gynhwysion pwerus, fel ffeibr, protein a gwrthocsidyddion, y gellir eu defnyddio i ddatblygu bwydydd maethlon ac iach.
5. Ymgysylltu â’r Gymuned a’i Haddysgu
Mae ymgysylltu ac addysgu yn ganolog i genhadaeth Grounds for Good. Mae’r cwmni’n cynnwys y gymuned leol yn ei waith drwy weithdai a digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar fyw’n gynaliadwy a mabwysiadu dull economi gylchol. Mae cyfran o’r elw sy’n deillio o werthu ei gynnyrch dialcohol yn cael ei roi i The Wallich, elusen digartrefedd genedlaethol.
6. Mabwysiadu Arferion sy’n Gyfeillgar i’r Amgylchedd
Y tu hwnt i’w ymrwymiadau sy’n ymwneud â bwyd, mae Grounds for Good wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed amgylcheddol cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r defnydd o blastig untro, hyrwyddo ailddefnyddio, a dilyn rhaglenni ailgylchu cynhwysfawr. Mae ei ymrwymiad i arferion ecogyfeillgar yn cefnogi nodau ehangach Bwyd Caerdydd o ran adeiladu cymuned gynaliadwy a ffyniannus.
Os oes gennych chi neu eich busnes ddiddordeb mewn gwneud adduned a fydd yn helpu Caerdydd i gael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy erbyn y flwyddyn 2024, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gofrestru yma.