Mae un o boptai crefft mwyaf poblogaidd y ddinas newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 8 oed.
Mae Pettigrew Bakeries wedi mynd o nerth i nerth ers agor ei safle cyntaf gyferbyn â Pharc Fictoria, ac mae bellach yn gweithredu o dri safle ar draws y brifddinas, yn ogystal â masnachu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol a gweithredu fel cyfanwerthwr hefyd.
Mae Pettigrew yn un o arloeswyr bara surdoes crefft yng Nghaerdydd – gan agor ymhell cyn y llu o boptai crefft sydd bellach i’w cael o amgylch y ddinas. Mae’n pobi’r hyn a elwir yn gyffredin yn ‘fara go iawn’ – bara a wneir heb gynhwysion prosesu, nac unrhyw ychwanegion eraill; y gwrthwyneb i fara wedi’i brosesu, sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffatri, a welwn yn ein harchfarchnadoedd.
Eglurodd sylfaenydd Pettigrew, David Le Masurier, “Ein bara surdoes yw ein cynnyrch symlaf, yn ogystal â’r mwyaf cymhleth. Syml yn yr ystyr bod ein torth gyfan yn fara surdoes go iawn, gyda blawd organig, dŵr a halen. Cymhleth yn yr ystyr bod ein proses yn cymryd dros dridiau, ac yn mynd drwy ddwylo medrus o leiaf dri phobydd, ac mae angen gwir sgil i gael y cysondeb yr ydym yn chwilio amdano.”
Yn ôl yr hen ddywediad, wrth ei flas mae profi pwdin (bara) – yn ychwanegol at ei safle gwreiddiol yn Nhreganna, maen nhw wedi agor ail fecws a chaffi ar Moy Road yn y Rhath, a siop fara fach yn Arcêd hanesyddol y Castell; mae’r safle llai wedi cael ei adnewyddu’n llwyr yn ddiweddar, ac mae bellach yn cynnwys caffi bach i fyny’r grisiau gyda seddi sy’n edrych allan dros du mewn yr arcêd Fictoraidd.
O ganlyniad i’r twf parhaus hwn, mae Pettigrew Bakeries bellach yn cyflogi 11 o bobyddion amser llawn a rhan-amser, a chyfanswm o 38 o staff; mae siopau bara annibynnol yn aml yn cynnal mwy o swyddi fesul torth, yn sicrhau bod arian yn cylchredeg mewn economïau lleol ac yn cadw strydoedd mawr lleol yn fyw.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bydd cwsmeriaid wedi sylwi ar gynnydd yn yr amrywiaeth o gynhwysion sydd ar gael gan Pettigrew, gyda mwy o ddewis nag erioed o’r blaen. Mae ystod gynyddol o deisennau Pettigrew, a’r casgliad o ddanteithion melys hefyd wedi dod yn rhan greiddiol o’r busnes; cafodd y twf hwn ei ddathlu gyda ffrindiau, teulu a chyflenwyr mewn digwyddiad diweddar yn y siop a’r caffi newydd yn Arcêd y Castell.
Mae Pettigrew Bakeries hefyd wedi bod yn aelodau o Bwyd Caerdydd ers tro byd ac wedi gwneud a chyflawni amrywiaeth o addunedau i helpu i wneud Caerdydd yn ddinas fwyd fwy cynaliadwy. O hyrwyddo ailddefnyddio a chwtogi ar blastig untro (darllenwch fwy yma), i brynu eu cynhwysion gan gyflenwyr lleol a buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol, prynu oddi wrth fentrau cymdeithasol, a mynd i’r afael â gwastraff bwyd drwy greu cynhyrchion newydd i ddefnyddio cynnyrch sydd dros ben, cynnig cynhyrchion sydd heb eu gwerthu i’r staff, a rhoi unrhyw beth sydd ar ôl ar yr Ap Too Good to Go.
Os oes gennych chi (neu eich busnes) ddiddordeb mewn gwneud adduned a fydd yn helpu Caerdydd i gael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy erbyn y flwyddyn 2024, darllenwch fwy a chofrestrwch yma.
I gael rhagor o wybodaeth am Pettigrew Bakeries, ewch i: www.pettigrew-bakeries.co.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Pettigrew Bakeries, ewch i: www.pettigrew-bakeries.co.uk.