Food Cardiff loading now

Y Tu Hwnt i’r Aur – y deng mlynedd nesaf i Bwyd Caerdydd

Daeth aelodau rhwydwaith Bwyd Caerdydd ynghyd yn Nheml Heddwch Caerdydd i ddathlu deng mlynedd gyntaf y rhwydwaith, a arweiniodd at Gaerdydd yn ennill gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024.

Gweithiodd y cynrychiolwyr gyda’i gilydd i ymchwilio i’r hyn y mae pobl yng Nghaerdydd eisiau ei weld erbyn 2035 o ran bwyd cynaliadwy – a chydweithio i ddarganfod sut i gyrraedd yno.

Agorwyd y digwyddiad gyda lansiad adroddiad Sgyrsiau Bwyd Caerdydd a myfyrdodau gan y bobl a oedd yn rhan o’r rhaglen.

Cynhaliodd Bwyd Caerdydd gyfres o Sgyrsiau Bwyd ym mis Mawrth 2025 a ddaeth â mwy na 90 o gyfranogwyr o gymunedau amrywiol ledled y ddinas ynghyd i drafod yr hyn y mae pobl yn ei werthfawrogi am fwyd, yr hyn sydd ddim yn gweithio, a’r hyn y mae angen ei newid i greu system fwyd iachach, tecach a mwy cynaliadwy.

Cynhaliwyd gweithdai drwy gydol y dydd ar ddatblygu ymatebion ymarferol, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, i’r blaenoriaethau a nodwyd drwy’r Sgyrsiau Bwyd:

  • Ymwreiddio Llythrennedd Bwyd i Bawb: Trafod ffyrdd o ddarparu sgiliau gydol oes yn y meysydd coginio, maeth, cynaliadwyedd a diwylliant i bawb yng Nghaerdydd.
  • Cefnogi Cadwyni Cyflenwi Bwyd Lleol a Chynaliadwy: Nodi camau gweithredu i gynyddu bwyd lleol, bwyd yn ei dymor a bwyd sy’n ddiwylliannol briodol.
  • Sicrhau Bod Bwyd Iach yn Fforddiadwy a Hygyrch: Trafod strategaethau i sicrhau mai bwyd iach yw’r dewis hawsaf i bob cymuned.
  • Lleihau Gwastraff Bwyd a Deunydd Pacio: Trafod camau gweithredu i leihau gwastraff bwyd a deunydd pacio.

Darparwyd bwyd cynaliadwy o ffynonellau lleol ar gyfer y digwyddiad gan The Tidy Kitchen Company a roddodd gyfle hefyd i bobl rwydweithio a rhannu syniadau ymhellach drwy gydol y dydd.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gyflwyno Cydlynydd newydd Bwyd Caerdydd, Lucinda Jones, i’r rhwydwaith. Mae Lucinda yn ymuno â thîm Bwyd Caerdydd gyda mwy nag wyth mlynedd o brofiad o weithio yn y sector preifat ar amrywiaeth o raglenni cynaliadwyedd a chadwyni gyflenwi, yn fwyaf diweddar gyda’r tîm Cyrchu Cynaliadwy yn Unilever.

Mae gan Lucinda gysylltiad cryf â’r gymuned ffermio hefyd, ar ôl cael ei magu ar fferm deuluol fach.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Lucinda:

“Roedd lansio’r adroddiad Sgyrsiau Bwyd heddiw yn golygu y gallem rannu’r wybodaeth a gafwyd o gymunedau ar hyd a lled Caerdydd fel sail ar gyfer gweithdai ar yr atebion, y syniadau a’r cysylltiadau ar gyfer beth nesaf i Bwyd Caerdydd.

“Roedd lansio’r adroddiad Sgyrsiau Bwyd heddiw yn golygu y gallem rannu’r wybodaeth a gafwyd o gymunedau ar hyd a lled Caerdydd fel sail ar gyfer gweithdai ar yr atebion, y syniadau a’r cysylltiadau ar gyfer beth nesaf i Bwyd Caerdydd.

“Rwyf wrth fy modd o gael yn ymuno â Bwyd Caerdydd ar gyfnod mor gyffrous, gan gyfuno fy mhrofiad o’r byd corfforaethol a’r byd ffermio, a gweithio i gydlynu’r holl waith gwych sy’n digwydd ar draws ein rhwydwaith,” meddai.

I gael gwybod mwy, lawrlwythwch yr adroddiad Sgyrsiau Bwyd llawn yma.