Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi lansio dathliadau Trio Tyfu eleni, lle byddan nhw’n eich helpu i ddathlu harddwch cymuned a thyfu drwy
weithgareddau rhyng-genhedlaethol sy’n ysbrydoli cynhwysiant a gwydnwch yn eich mannau tyfu.
Ddydd Sadwrn 6 Mehefin, maen nhw’n gofyn i bobl agor eu mannau tyfu
i ddangos eu safleoedd bywiog a’u llenwi â chwerthin, dysgu, a digonedd o
wyrddni! P’un a ydych chi’n dyfwr profiadol neu ddim ond yn chwilfrydig ynglŷn â chael eich grŵp i gymryd rhan, mae rhywbeth i bawb.
Os ydych chi’n lle tyfu cymunedol sy’n bwriadu cynnal diwrnod agored fel rhan o Trio Tyfu ar 6 Mehefin 2026, cofrestrwch ar y dudalen we hon.
Unwaith y bydd eich sefydliad wedi cofrestru, bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu adnoddau y gellir eu lawrlwytho yn llawn syniadau ar gyfer eich gweithgareddau a’ch helpu i hysbysebu eich digwyddiadau.