Mae tîm arlwyo Met Caerdydd wedi llwyddo i ddal ei afael yn statws tair seren y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy, sef y statws uchaf.
Safon ‘Food Made Good’ y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yw’r achrediad cynaliadwyedd gorau i fusnesau bwyd a diod, sy’n seiliedig ar archwiliad manwl o berfformiad yn erbyn targedau allweddol sy’n ymwneud â’r amgylcheddol, cymdeithas a ffynonellau.
Meddai Andrew Phelps, pennaeth arlwyo Prifysgol Metropolitan Caerdydd:
“Rydym yn ymfalchïo ein bod, unwaith eto, wedi cael statws tair seren y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy – y statws uchaf sydd ar gael. Hwn yw ein chweched cais blynyddol am y Safon, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi mynd o ddwy seren i dair seren.
“Canmoliaeth fawr i dîm arlwyo Met Caerdydd a thîm Cynaliadwyedd Met Caerdydd am eu holl waith caled a’u hymrwymiad i gynaliadwyedd dros y blynyddoedd diwethaf.”
Meddai’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy:
“Llongyfarchiadau i Brifysgol Metropolitan Caerdydd am gael tair seren y Safon ‘Food Made Good’. Mae ei chanlyniadau anhygoel yn dangos yn glir ei hymroddiad i drawsnewid y ffordd mae’n gweithredu er mwyn bod yn fwy ystyrlon o’r blaned. Cymerodd Met Caerdydd ran yn y Safon Food Made Good am y tro cyntaf yn 2016, gan godi ei sgôr o 64% i 88% dros yr wyth mlynedd diwethaf.”
Dywedodd y Gymdeithas fod llawer o elfennau wedi cyfrannu at y llwyddiant, ond yr hyn oedd yn sefyll allan fwyaf oedd:
- Mae Met Caerdydd yn cefnogi cyflenwyr i ddatblygu cynlluniau cynaliadwyedd gan ddefnyddio offeryn asesu cyflenwyr. Mae hefyd yn aelod o Electronics Watch, sy’n hyrwyddo ac yn diogelu hawliau gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi byd-eang.
- Mae’r tîm arlwyo yn ymroddedig i greu prydau bwyd iachach, ac maent yn cynnwys 20% yn llai o halen a 10% yn llai o siwgr drwy ddefnyddio perlysiau ffres a chynhwysion naturiol amgen. Mae hefyd yn cydweithio â chwmnïau planhigion fel Planted a brandiau diodydd iach fel Flawsome!, drwy gynnig samplau am ddim a chymryd rhan mewn sgyrsiau i staff a myfyrwyr.
- Cymerodd Met Caerdydd ran yn yr ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha Cyngor Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar leihau gwastraff bwyd. Ymunodd â Dyfodol Tyfu Cynaliadwy i ailddefnyddio gwastraff bwyd er mwyn creu lliwiau naturiol gan ddefnyddio croen afocado, bresych coch a chroen winwns.
Mae’r Safon ‘Food Made Good’ yn mesur cynaliadwyedd busnes lletygarwch drwy asesu ei berfformiad yn erbyn 10 maes effaith allweddol Fframwaith Cynaliadwyedd ‘Food Made Good’. Mae ymrwymo i’r Safon yn galluogi busnes i fesur ei berfformiad, arddangos y meysydd mae’n rhagori ynddynt a darganfod ble mae’n rhaid gwneud mwy o waith. Mae sgôr o dros 70% yn rhoi’r statws uchaf o dair seren i fusnes.
Ychwanegodd Pearl Costello, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, Bwyd Caerdydd:
“Llongyfarchiadau i dîm Met Caerdydd ar gael sgôr cystal eleni a chadw ei statws haeddiannol o dair seren. Wrth i ni ddathlu’r ffaith bod Caerdydd wedi ennill gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar, mae’n wych gweld enghraifft arall o fudiad bwyd da y ddinas yn cael cydnabyddiaeth. Mae Met Caerdydd yn ysbrydoliaeth i lawer o fusnesau eraill ar draws y ddinas sy’n gweithio tuag at ddiwylliant bwyd iach, cymdeithasol gyfrifol ac amgylcheddol gynaliadwy,” meddai.