Food Cardiff loading now

Postiad gan Sefydliad Gwadd: Orchard Cardiff yn paratoi am dymor newydd

Grŵp cymunedol dielw wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n helpu pobl i gynaeafu, rhannu a mwynhau ffrwythau a dyfir yn lleol yw Orchard Cardiff. Os oes gennych goeden yn eich gardd gyda ffrwythau dros ben y byddai’n fuddiol eu rhannu â phrosiectau bwyd lleol, cysylltwch â ni a gallwn drefnu i’w cynaeafu. Ac yn yr un modd, os ydych chi awydd ymuno â ni i gasglu ffrwythau – boed hynny dim ond unwaith neu’n rheolaidd – cysylltwch â ni, rydyn ni’n griw cyfeillgar!


Mae Orchard Cardiff hefyd yn cynnig Credydau Amser i wirfoddolwyr – mae’r rhain yn wych ar gyfer diwrnod allan am ddim mewn rhai o safleoedd Cadw neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu ar gyfer sioe yn Theatr y Sherman a’r Chapter a mannau eraill.

Ym mis Medi, rydym hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad fel rhan o Ŵyl Bwyd Da Caerdydd – dewch i ddweud helo yn ein stondin yn Ardal Bwyd Da Caerdydd yn ystod Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan (8 Medi, sy’n cynnwys gweithdy adrodd straeon a barddoniaeth creadigol wedi’i ysbrydoli gan ffrwythau dan ofal Sarah Featherstone, 15:15 – 16:15) neu ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Afalau ar 28 Medi yn Global Gardens.

Gallwch ddarllen mwy am Orchard Cardiff yma.