Food Cardiff loading now

Nosweithiau Bwyta’n iach a Choginio – ffêc-awês o bob cwr o’r byd (Trwy wahoddiad yn unig)

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd rhwng 10 Medi a 18 Hydref gyda dwsinau o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar draws y ddinas.

Bydd Llamau yn cynnal nosweithiau bwyta a choginio iach yn ei brosiect llety â chymorth newydd i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar thema ffêc-awês iach o bob cwr o’r byd.

Bydd gweithwyr cefnogol a’r bobl ifanc yn ymchwilio i ryseitiau ar gyfer eu dewis o fwydydd – Arabaidd, Americanaidd, Asiaidd ac Eidalaidd – a byddant yn siopa’n lleol cyn coginio a rhannu pryd bob nos Iau yn ystod yr ŵyl.

Mae’r rhaglen yn cefnogi sgiliau bywyd allweddol i helpu pobl ifanc i ennill annibyniaeth yn ogystal â helpu i godi hyder a chreu rhwydweithiau cymunedol.

Digwyddiad trwy wahoddiad yn unig yw hwn.