Mae Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am ei seithfed flwyddyn, gan gael ei chynnal ledled y ddinas rhwng 12 Medi a 31 Hydref 2026. Mae’r ŵyl yn dwyn ynghyd grwpiau cymunedol, ysgolion, gerddi, a busnesau lleol i gynnal ystod eang o ddigwyddiadau am ddim sy’n canolbwyntio ar y llawenydd o dyfu, coginio a rhannu bwyd da.
Mae’r holl ddigwyddiadau yn cyd-fynd â phum nod craidd Bwyd Caerdydd: hyrwyddo Caerdydd iach, adeiladu dinas gynaliadwy yn amgylcheddol, cefnogi economi leol ffyniannus, sicrhau system fwyd deg a chysylltiedig, a grymuso’r mudiad bwyd lleol.
Cynigiodd Bwyd Caerdydd grantiau bach gwerth hyd at £500 i gefnogi sefydliadau’r trydydd sector, grwpiau cymunedol ac ysgolion i gynnal ystod eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd.
Mae’r ŵyl yn cychwyn yn swyddogol yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru dros benwythnos 12 a 13 Medi, rhwng 10.30am a 4.30pm.
Bydd pabell bwrpasol Parth Bwyd Da Caerdydd yn cynnwys gweithgareddau i deuluoedd, gweithdai ymarferol, arddangosiadau a sgyrsiau. Gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru, mae’r parth yn dathlu bwyd lleol ac yn annog ymwelwyr i ddysgu mwy am fwyd sy’n dda i bobl ac i’r blaned.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau cyhoeddus am ddim yn cael eu cynnal mewn cymdogaethau ledled Caerdydd. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys. Mae’r uchafbwyntiau’n Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd cynnwys:
- Diwrnod Hwyl a Bwyd (19 Medi, 11am–3pm): Cynhelir gan Bantri Trowbridge yng Nghanolfan Gymunedol Trowbridge. Dathlwch ben-blwydd y Pantri yn 5 oed gyda gweithgareddau a lluniaeth ar thema bwyd.
- Cyfarfod Bwyd y Prynhawn (19 Medi, 2–6pm): Cynhelir gan Alhusna Community Trust yng Nghae Anderson. Digwyddiad awyr agored am ddim i deuluoedd lleol rannu bwyd diwylliannol a chael awgrymiadau bwyta’n iach. (mae hwn yn ddigwyddiad drwy wahoddiad yn unig)
- Dathlu 10 Mlynedd y Prosiect Partner Geni (23 Medi, 10am-2pm): Cynhelir gan y Prosiect Partner Geni yng Nghanolfan y Drindod. Dathliad cymunedol gyda bwyd i nodi pen-blwydd y sefydliad yn 10 oed.
- Dathlu’r Hydref yn y Rhandir (25 Medi, 11am–4pm): Cynhelir gan CBC Breathe Creative a CBC Growing Green yn rhandiroedd Leckwith Droves. Dathliad y cynhaeaf gyda cherddoriaeth, gweithdai a bwyd.
- Diwrnod yr Afal (26 Medi, 11am-3pm): Cynhelir gan Berllan Caerdydd yng Ngerddi Global. Gweithgareddau i deuluoedd ar thema afalau, gan gynnwys gwneud sudd ac adrodd straeon.
- Dathliad Pen-blwydd y Gerddi Global yn 10 oed (26 Medi, 12–5pm): Cynhelir gan Brosiect Gerddi Global yng Ngerddi Global. Dathliad pen-blwydd yr ardd gyda gweithdai, bwyd a cherddoriaeth.
- Prydau Cymunedol (30 Medi, 1pm a 30 Hydref, 5.30-8pm): Cynhelir gan ACE / HETRA yng Nghanolfan Gymunedol Ystum Taf ac Ystad Hollybush. Bwydlenni amlddiwylliannol sy’n dathlu bwyd, diwylliant a chymuned lleol.
- Noson Gwis yn y Pantri (30 Medi, 6–9pm): Cynhelir gan Bantri Tremorfa yn Neuadd Gymunedol Tremorfa. Noson o gwisio a phryd o fwyd wedi’i goginio’n ffres.
- Barbeciw Cymunedol Kenneth Treasure Court (1 Hydref): Cynhelir gan Gymdeithas Tai Unedig Cymru yn Kenneth Treasure Court. Barbeciw cymunedol tymhorol.
- Dathliad Bwyd Cymunedol: Blasu a Dysgu am Flasau Indiaidd (3 Hydref, 11am–2pm): Cynhelir gan Pedal Power Caerdydd yng Nghaffi Pedal Power. Arddangosiadau coginio llysieuol Indiaidd a chyfle i flasu.
- Cinio Cymunedol Eglwys Sant Philip (21 Hydref, 12pm): Cynhelir gan Eglwys Sant Philip, Tremorfa. Cinio am ddim a chyfarfod cymunedol.
- Gŵyl Fwyd a Hwyl yr Hydref Glan-yr-afon (28 Hydref, 11am–2pm): Cynhelir gan Ganolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon yng Nghanolfan Wyndham Street. Arddangosiadau bwyd, a chelf a chrefft yr hydref.
- Caffi Bwydydd Anghofiedig (30 Hydref, 1–3pm): Cynhelir gan Wirfoddolwyr Cymunedol y Sblot yn Hyb STAR. Digwyddiad am ddim sy’n dathlu llysiau tymhorol, anghofiedig.
- Gwledd Gymunedol y Cynhaeaf (Dyddiad i’w gadarnhau): Cynhelir gan Fwrdd Partneriaeth Dysgu Trelái a Chaerau. Dathliad o fwyd tymhorol a diwylliant cymunedol.
- Melino Cynhaeaf a Hyb Pobi Cymunedol (Dyddiad i’w gadarnhau): Cynhelir gan Y Drindod. Gweithdai ar felino traddodiadol a phobi bara.
Yn ogystal â digwyddiadau’r ŵyl gyhoeddus, mae ysgolion cynradd ledled y ddinas yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n dathlu’r cynhaeaf, gan gysylltu â’u cymunedau trwy fwyd ac addysgu disgyblion am dyfu, coginio a bwyta bwyd da.