Food Cardiff loading now

Cyfarfod yr Hydref rhwydwaith Bwyd Caerdydd – Y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Bute

Ar 9 Medi rydym yn cynnal cyfarfod yr Hydref rhwydwaith Bwyd Caerdydd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb ym mudiad bwyd da y ddinas ymuno â’r sefydliadau, y busnesau a’r unigolion sy’n mynychu.

Mae digwyddiad y tymor hwn yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute ddydd Llun 9 Medi o 11:30 – 14:30. Mae’n rhad ac am ddim a gallwch gofrestru yma.

Eleni, mae Bwyd Caerdydd yn dathlu deng mlynedd o gydweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ar draws y ddinas. Felly ar gyfer y digwyddiad hwn, rydym yn gwahodd pobl a phrosiectau sydd i gyd wedi cyfrannu at fudiad bwyd da Caerdydd i fyfyrio ar ein cyflawniadau.

Byddwn yn edrych ar ba gynnydd sydd wedi’i wneud tuag at ein pum Nod ar gyfer Bwyd Da a’r hyn y mae pobl yn ei feddwl y dylid ei wneud nesaf.

Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i weld y tu mewn i’r “Ardd Ddirgel”. Cawn glywed gan Gardd Salad Caerdydd, Planhigfa Parc Bute a Chaffi’r Ardd Ddirgel am yr hyn y maent yn ei wneud i gefnogi’r mudiad bwyd da.

Yn ôl yr arfer, mae’r digwyddiad yn agored i unrhyw un, waeth beth fo’u cysylltiad blaenorol â Bwyd Caerdydd.