Mae prynu’n lleol yn helpu i gadw arian yn cylchredeg yn eich economi leol, gan gefnogi swyddi a busnesau annibynnol eraill.
I chi fel busnes, gall olygu gallu dod o hyd i gynnyrch tymhorol, sy’n fwy ffres ac yn cael ei dyfu neu ei wneud yn lleol yn unol â’ch gofynion. Mae cadwyni cyflenwi byrrach yn rhoi mwy o hyblygrwydd ac opsiynau i chi i roi cynnig ar syniadau newydd, gan leihau hefyd yr angen i gludo bwyd mor bell a’i storio cyhyd, gan arbed ynni a lleihau allyriadau.
Mae llawer o gynhyrchwyr bwyd canol y ddinas hefyd yn fusnesau cymdeithasol, sy’n golygu y gallwch hefyd fod yn defnyddio’ch cadwyn gyflenwi i gefnogi’r gwaith da y maen nhw’n ei wneud yn y gymuned.
Gall fod yn anodd dod o hyd i gyflenwyr lleol – gall rhwydweithio drwy Bwyd Caerdydd helpu – felly mae Arloesi Bwyd Cymru wedi creu cyfeiriadur o dros 600 o gwmnïaubwyd a diod yng Nghymru. Mae ganddo nodweddion newydd chwiliadwy iawn a gafodd eu lansio’n ddiweddar i alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i sgil-gynhyrchion penodol i helpu i leihau gwastraff a chefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Os ydych yn chwilio am gyfleoedd eraill i gysylltu â chyflenwyr, mae gan wefan Bwyd a Diod Cymru wybodaeth am rwydweithio, digwyddiadau masnach a chefnogaeth ar gyfer marchnata ac arloesi.
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cyhoeddi cyfeiriadur o fusnesau cymdeithasol, gan gynnwys llawer yn y sectorau lletygarwch a bwyd.