Mae cartrefi’r DU yn gwastraffu tua 4.5 miliwn tunnell o fwyd cwbl fwytadwy bob blwyddyn. Felly mae’n gwneud synnwyr bod arbed bwyd yn golygu arbed arian; amcangyfrifir y gallai’r teulu cyffredin arbed tua £60 y mis – swm aruthrol o £720 y flwyddyn – pe baent yn bwyta popeth a brynwyd ganddynt.
Ond mae arbed bwyd rhag y bin hefyd yn helpu’r blaned. Mae hynny oherwydd bod bwyd sy’n cael ei wastraffu yn cyfrannu’n uniongyrchol at newid yn yr hinsawdd; pe bai gwastraff bwyd yn wlad, byddai yn y trydydd safle o ran cynhyrchu’r swm mwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ôl Tsieina a’r Unol Daleithiau.
Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf (o fis Mawrth tan fis Mehefin 2020), taflodd y DU draean yn llai o fwyd, oherwydd bod pobl yn greadigol wrth goginio gartref. Ond yn anffodus, nawr bod pethau’n dychwelyd i normal, mae gwastraff bwyd cartrefi ar gynnydd unwaith eto.
Gall newidiadau bach yn y cartref helpu; fel trefnu eich oergell yn iawn i gadw pethau’n fwy ffres am gyfnod hwy. Cadwch fwyd sy’n dod i ddiwedd ei oes yn gyflymach ar y silff uchaf, cig a physgod ar y silffoedd isaf, a llysiau yn y drôr lle mae’n fwy llaith. Defnyddiwch y drws (y rhan gynhesaf) ar gyfer sawsiau ac ati.
mewn i’ch oergell) i wneud yn siŵr nad ydych yn dyblygu’r hyn sydd gennych ac yn prynu nwyddau darfodus nad oes eu hangen arnoch chi, ac na fyddwch yn llwyddo i’w bwyta.
Manteisiwch ar eich rhewgell hefyd; mae’r rhan fwyaf o fwydydd yn rhewi’n dda a gellir eu cadw i’w defnyddio rhywbryd eto. Mae’r rhewgell hefyd yn wych os ydych yn coginio swp a ddim eisiau bwyta’r un cawl llysiau bum niwrnod yn olynol.
Gallwch hyd yn oed ‘achub’ bwyd rhag mynd yn wastraff o amgylch y ddinas, drwy gasglu bwyd dros ben am brisiau gostyngol (Too Good To Go) neu am ddim (Olio); gallwch restru eich cynhwysion dros ben eich hun fel rhai rhad ac am ddim i’w casglu, hefyd.
Gadewch i ni ddysgu cael sbort gyda’n sbarion. Mae’n gyfle i fod yn greadigol yn y gegin, darganfod ryseitiau newydd a dysgu sgiliau newydd – gyda’r fantais ychwanegol o gael effaith gadarnhaol ar y blaned.
Dyma rai ffyrdd gwych o leihau gwastraff bwyd a gwneud y gorau o’r hyn sydd gennych gartref:
- Cynlluniwch eich prydau bwyd
Mae cynllunio’r prydau rydych am eu coginio neu gynhwysion y credwch y bydd eu hangen arnoch yn helpu i leihau amser siopa – a’r potensial i wastraffu bwyd. Cynlluniwch ryseitiau ar ddechrau’r wythnos yn seiliedig ar yr hyn sydd gennych eisoes yn eich cypyrddau, yna gwnewch restr o beth arall sydd ei angen arnoch chi. Meddyliwch a allwch chi ddefnyddio’r un cynhwysion mewn gwahanol brydau. - Defnyddiwch duniau
Peidiwch â bod ofn defnyddio bwydydd tun neu fwydydd wedi’u rhewi yn eich prydau. Mae ffrwythau a llysiau tun neu wedi’u rhewi yn dal i fod yn faethlon ac fel arfer mae nhw gryn dipyn yn rhatach. Gallant hefyd fod yn symlach i’w paratoi a phara am gyfnod llawer hwy. - Deall y labeli
Mae dyddiadau ‘Ar Ei Orau Cyn’ i’w gweld ar ystod eang o fwydydd wedi’u rhewi, wedi’u sychu, mewn tun a bwydydd eraill, ond maen nhw’n adlewyrchu ansawdd posibl yr eitem, nid ei diogelwch. Gall eitemau ble mae’r dyddiad ‘Ar Ei Orau Cyn’ wedi mynd heibio fod yn berffaith ddiogel i’w bwyta; fodd bynnag, os yw ‘dyddiad defnyddio erbyn’ yr eitem wedi mynd heibio, ni ddylid ei fwyta, hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn. Mae hyn oherwydd y gallai ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwn roi eich iechyd mewn perygl.
- Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff – Cynllunydd Dognau (opens new window)
- Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff – Ryseitiau (opens new window)
- Hubbub – Pum Math o Fwyd sy’n Addas i’w Rhewi* (opens new window)
- Hubbub – Sut i Storio Ffrwythau a Llysiau* (opens new window)
- HungryCityHippy – Pum Cogydd o Gaerdydd yn Brwydro yn Erbyn Gwastraff Bwyd* (opens new window)