Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd bod Tom Frost, o Fferm Organig Blaencamel, yn cymryd drosodd Gardd Salad Caerdydd. Gofynnwyd i Tom rannu ei gynlluniau gyda ni.


Rwy’n dod o gefndir ffermio organig, mewn garddwriaeth yn bennaf, sy’n arbenigo mewn tyfu cnydau mewn tai gwydr. Roedden ni’n gwerthu ein cynnyrch yn uniongyrchol, felly mae gen i brofiad helaeth o redeg busnesau bocsys llysiau, gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr, cyflenwi i gyfanwerthwyr a masnach, a gweithio gyda chogyddion.
Rwyf wastad wedi bod yn frwd dros arloesi garddwriaethol a thyfu mathau newydd a diddorol o gynnyrch. Yn anochel, mae hynny’n arwain at fwyd rhagorol!
Mae hyn wedi llunio ein gweledigaeth ar gyfer yr hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni gyda Gardd Salad Caerdydd.
Byddwn yn parhau i dyfu a chyflenwi salad cymysg, ond byddwn hefyd yn arallgyfeirio i gnydau gwinwydden fel tomatos a chiwcymbrau ac ambell beth arall a fydd yn ffynnu yn y tai gwydr. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau arbrofi a gweld beth fyddwn ni’n gallu ei dyfu, a chael ychydig o gynnyrch newydd ar fwydlenni ledled y ddinas gobeithio.
Rydym yn awyddus i weithio gyda chogyddion i gynyddu dealltwriaeth pawb o gadwyni bwyd lleol, cynaliadwyedd, a bwyd yn ei dymor. Rydym yn gobeithio dysgu oddi wrthynt, ac rydym yn credu y gallan nhw ddysgu llawer gennym ninnau hefyd. Mae ein cynnig yn unigryw: gallwn ddarparu cynnyrch salad a llysiau organig i gogyddion sydd wedi’u tyfu yng nghanol y ddinas – allwch chi ddim cael taith bwyd llawer byrrach na hynny!
Rwy’n rhedeg yr Ardd Salad ar y cyd â Frances Elisabeth, y mae llawer o bobl efallai’n ei hadnabod o Lufkin Coffee. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf ar wahanol brosiectau ac mae gan y ddau ohonom hanes o werthu ym Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd. Mae Frances yn dod â’i holl gysylltiadau o fyd bwyd Caerdydd i’n helpu i adeiladu busnes cynaliadwy a rheoli ochr menter gymdeithasol ein gwaith.
Mae’n bwysig iawn i mi ein bod yn parhau i weithio gyda sefydliadau tyfu cymunedol a bod yr Ardd Salad yn gweithredu fel lleoliad bach i bobl gynnal gweithdai, digwyddiadau rhannu hadau, a gweithgareddau tebyg.
Hoffwn hefyd wahodd arbenigwyr i roi sgyrsiau a gweithdai ar dechnegau tyfu a dulliau arloesol newydd. Byddai’n wych pe bai’r lle’n gallu parhau i ddatblygu fel canolfan arbenigedd ar gyfer arferion organig a chynaliadwy yng nghanol y ddinas.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn agored iawn i glywed syniadau gan bobl yn rhwydwaith Bwyd Caerdydd ac iddyn nhw gysylltu â ni, yn enwedig os oes prosiectau, digwyddiadau, neu fentrau y gallem gydweithio â nhw.