Mae’n newyddion gwych bod ein gwastraff bwyd yma yng Nghaerdydd yn cael ei gasglu gan y cyngor yn wythnosol. Ond er gwaethaf hyn, mae bron i chwarter ein ‘sbwriel cyffredinol’ wedi’i halogi â chynnyrch bwyd a ddylai fod wedi cael ei roi yn y bin gwastraff bwyd.
Gyda phobl bellach yn coginio ac yn bwyta mwy o fwyd gartref, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod ein holl wastraff bwyd yn cael ei roi yn y bin bwyd, yn barod i’w gasglu.
Mae hynny oherwydd bod gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd gan y cyngor yn cael ei anfon i gyfleuster treulio anaerobig, lle y caiff ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru cartrefi a chymunedau.
Felly ar gyfer gwastraff bwyd na ellir ei osgoi gartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared arno mewn ffordd gynaliadwy, drwy ddefnyddio eich bin bwyd brown.
Fel arall, gallech ystyried dechrau eich tomen gompost eich hun gartref; darllenwch yr adnoddau isod i gael awgrymiadau i’ch rhoi ar ben ffordd.