Food Cardiff loading now

Find My Nearest Cym

Newyddion da. Mae llawer o bethau da eisoes yn digwydd yn ymwneud â bwyd yng Nghaerdydd. Rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy yn fuan!

Rydym wedi rhoi’r prosiectau, y cynlluniau a’r busnesau sy’n gweithredu ar fap er mwyn i chi weld beth sy’n mynd ymlaen a gwybod sut y gallwch gymryd rhan.

O brosiectau tyfu bwyd cymunedol i wobrau bwytai cynaliadwy, beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano gallwch ddod o hyd iddo ar fap Bwyd Caerdydd.

Sut i ddod o hyd i’r hyn yr wyf yn chwilio amdano?

Mae ein map yn hawdd i’w ddefnyddio. Gellir chwilio yn ôl categori. Dewiswch yr hyn yr ydych yn chwilio amdano o’r rhestr.

Os ydych yn credu ein bod wedi anghofio unrhyw beth neu os oes gennych brosiect yr hoffech ei ychwanegu, rhowch wybod i ni.

[maplist selectedzoomlevel=”10″ simplesearch=”true” clustermarkers=”true” locationsperpage=”10″]

Categorïau

Sefydliadau Bwyd Caerdydd – mannau sy’n addo gwneud pethau’n wahanol

Edrychwch am ein logo! Mae sefydliadau sy’n arddangos sticer ffenestr a thystysgrif Bwyd Caerdydd wedi addo gwneud o leiaf un peth cadarnhaol yn ymwneud â bwyd. Gallwch ganfod pwy sy’n gweithredu yn www.foodcardiff.org.

Gwobr Bwyty Cynaliadwy

Mae’r Wobr Bwyty Cynaliadwy yn rhoi graddfa sêr i fwytai sy’n mynd gam ymhellach er mwyn cynaliadwyedd. Edrychwch am y logo ar fwydlenni, gwefannau ac ar sticeri ffenestri. Gallwch ganfod mwy yn www.thesra.org

Marc Arlwyo Bwyd am Oes

Dyfernir y Marc Arlwyo i ddarparwyr bwyd sydd yn gwella’r bwyd y maent yn ei weini trwy ddefnyddio cynhwysion ffres yn rhydd rhag ychwanegion a thraws-frasterau, gan ddewis cynhwysion uwch o ran lles anifeiliaid, ac sy’n cydymffurfio â safonau maeth cenedlaethol. www.sacert.org/catering/standards

Fish2Fork: Canllaw Bwytai ar gyfer Pysgod Cynaliadwy

Dewiswch swper o bysgod blasus o ffynhonnell gynaliadwy gan ddefnyddio’r canllaw hwn, sy’n graddio ansawdd bwyd bwytai a’i effaith ar fywyd y môr. www.fish2fork.com

Gwobr Dewisiadau Iach

Mae’r Wobr Dewisiadau Iach yn wobr gan Gyngor Caerdydd i fusnesau bwyd sy’n ei wneud yn haws i gwsmeriaid fwyta’n iach. Gallwch ganfod mwy ar dudalen Tîm Gwella Iechyd Cyngor Caerdydd ar y we.

Prosiectau tyfu bwyd

Mae gerddi cymunedol yn rhoi lle i gymunedau lleol ddysgu sut i dyfu bwyd. Cânt eu sefydlu gan wirfoddolwyr yn aml a’u rheoli gan y gymuned. Mae llawer o brosiectau tyfu bwyd yng Nghaerdydd yn ogystal â gerddi cymunedol, clybiau gardd a rhandiroedd cymunedol .

Rhandiroedd

Gallech ddod yn egnïol, mwynhau’r awyr iach, gwneud ffrindiau a thyfu eich ffrwythau a’ch llysiau fforddiadwy eich hun mewn rhandir. Gwnewch gais am eich rhandir eich hun gyda Chyngor Caerdydd neu ffoniwch 029 20 684 000.

Clybiau brecwast am ddim yn yr ysgol

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn cynnal clwb brecwast, felly gall plant gael brecwast iach am ddim yn yr ysgol. Gofynnwch i ysgol eich plentyn am fwy o wybodaeth.

Cydweithfeydd bwyd

Cydweithfeydd bwyd cyfeillgar, sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr lleol. Maent yn gwerthu ffrwythau, llysiau a bagiau salad fforddiadwy – mae bagiau wythnosol yn costio rhwng £2.50 a £3.00. Ewch i www.foodcoopswales.org.uk am fwy o wybodaeth.

Marchnadoedd ffermwyr

Ceir pedair marchnad ffermwyr yng Nghaerdydd bob wythnos (fe’u cynhelir yng Nglan yr Afon, Rhiwbeina a’r Rhath). Mae’r marchnadoedd yn cynnig bwyd ffres, fforddiadwy lleol yn uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchydd. Ewch i wefan RCMA am fwy o wybodaeth.

Banciau Bwyd

Mae banciau bwyd yn darparu bwyd brys i unigolion a theuluoedd sy’n cael anhawster yn cael dau ben llinyn ynghyd. Gallwch ganfod sut i gael cymorth gan Fanc Bwyd Caerdydd trwy fynd i www.cardifffoodbank.org.uk.

Canolfannau Ailddosbarthu Bwyd (FareShare Cymru)

Mae FareShare Cymru yn dosbarthu bwyd bwytadwy sydd dros ben o’r diwydiant bwyd (bwyd fyddai’n cael ei wastraffu fel arall) i helpu sefydliadau ac elusennau i ddarparu prydau ar gyfer pobl mewn angen. Gallwch ganfod mwy ar wefan FareShare.

Talebau Cychwyn Iach

Os ydych ar incwm isel ac yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan bedair oed, efallai eich bod yn gymwys am dalebau Cychwyn iach. Gallwch ddefnyddio’r talebau i brynu llaeth, ffrwythau a llysiau ffres neu wedi’u rhewi neu laeth powdr i fabanod. Gallwch ganfod a ydych yn gymwys neu ofyn i’ch ymwelydd iechyd.

Fitaminau Cychwyn Iach

Os ydych ar incwm isel ac yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan bedair oed, efallai eich bod yn gymwys am gwponau fitaminau Cychwyn iach. Gallwch ganfod a ydych yn gymwys neu ofyn i’ch ymwelydd iechyd neu eich bydwraig.

Mannau sy’n Croesawu Bwydo ar y Fron

Gall y syniad o fwydo ar y fron oddi cartref fod yn frawychus ond mae llawer o gaffis, bwytai a siopau wedi ymuno â’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron i ddangos bod croeso i famau sy’n bwydo ar y fron. Edrychwch am sticeri Croesawu Bwydo ar y Fron ar ffenestri/drysau. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: wales.gov.uk/topics/health/improvement/pregnancy/breastfeeding/welcomescheme/?lang=cy

Grwpiau Cefnogi Bwydo ar y Fron

Gallwch gael gwybodaeth, cefnogaeth neu gymorth gyda bwydo ar y fron gan un o grwpiau cefnogi bwydo ar y fron Caerdydd, sy’n cael eu rhedeg gan ymwelwyr iechyd neu fydwragedd profiadol. Mae grwpiau cyfaill cefnogol hefyd, sy’n cael eu rhedeg gan famau sydd wedi cael eu hyfforddi i roi cymorth yn ymwneud â bwydo ar y fron. Gallwch ganfod mwy yn www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/opendoc/182641

Partïon Diddyfnu Dechrau’n Deg

Dewch â’ch babi i sesiwn gyda deietegwyr ac ymwelwyr iechyd a chael gwybodaeth am ddiddyfnu mewn cyfarfod grŵp hamddenol ac anffurfiol. Cysylltwch â Thîm Maeth a Deieteg Dechrau’n Deg ar 02920 351380 neu 02920 351377 i ganfod mwy.

Rhaglen Beth am Goginio

Mae cyrsiau ‘Beth am Goginio!’ am ddim ar gael ar gyfer rhieni â phlant o dan bedair oed sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg yng Nghaerdydd (Trelái, Caerau, Llanrhymni, Tredelerch, Sblot, Tremorfa ac Adamsdown). Os ydych eisiau dysgu sut i goginio, gallwch ganfod mwy yn www.flyingstartcardiff.co.uk

Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy

Mae’r Cynllun Cyn-ysgol iach a Chynaliadwy ar gyfer meithrinfeydd, grwpiau chwarae, gwarchodwyr plant a gofalwyr eraill plant o dan bedair oed. Mae’n gynllun sy’n eu hannog a’u cynorthwyo i gynnwys gweithgareddau iach mewn arferion dyddiol ac wrth gynllunio. A yw meithrinfa eich plentyn chi wedi ymuno?

Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur

Mae’r wobr hon yn agored i bob lleoliad gofal plant cyn ysgol. Mae’n annog lleoliadau i ddarparu dewis iach a maethlon o fyrbrydau, yn ogystal â datblygu polisi bwyd, gan greu amgylchedd bwyda braf a sicrhau eu bod yn dilyn arferion hylendid bwyd da. A yw eich lleoliad gofal plant chi wedi cael y wobr?

Rhwydwaith Cynllun Ysgolion Iach Caerdydd

Mae Cynllun Ysgolion Iach Caerdydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd, uwchradd ac anghenion addysgol arbennig ar draws wyth maes testun, yn cynnwys bwyd a maeth. Cefnogir ysgolion i ddatblygu a hybu bwyta’n iach. Mae’r cynllun yn hyrwyddo iechyd disgyblion, staff a chymuned.

Eco-Sgolion

Mae Eco-Sgolion yn gynllun rhyngwladol sy’n cefnogi plant i weithredu ar faterion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’r disgyblion yn dysgu am ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang trwy gael rôl flaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau. Gallwch ganfod mwy am Eco-Sgolion yng Nghaerdydd.