Rhannwch eich arbrofion yn y gegin gan ddefnyddio’r hashnod #BwydDaCaerdydd a dilynwch am gynghorion ac ysbrydoliaeth!
Bwyta’n dda a chadw’n iach yn ystod Covid 19
Mae bwyta diet cytbwys iach yn rhan bwysig o gynnal iechyd da. Gall eich helpu i deimlo’n dda a’ch helpu i gynnal pwysau iach, yn ogystal â sicrhau bod gennych yr holl faetholion sydd eu hangen arnoch i gadw’n iach.
Mae deiet iach yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd gyda’r cyfrannau cywir a defnyddio’r swm cywir o fwyd a diod i gyflawni a chynnal pwysau corff iach.
Mae’r canllaw bwyta’n iach yn dangos diet iachus a chytbwys.

Egwyddorion sylfaenol y canllaw yw:
- O leiaf 5 dogn o wahanol ffrwythau a llysiau bob dydd.
- Bwytwch beth ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill (gan gynnwys 2 ddogn o bysgod bob wythnos, dylai un ohonynt fod yn olewog, cofiwch gael peth cynnyrch llaeth neu laeth amgen (fel diodydd soia), dewiswch opsiynau braster is a llai o siwgr.
- Seiliwch eich prydau o gwmpas tatws, bara, reis, pasta a charbohydradau startslyd eraill; dewis fersiynau grawn cyflawn lle bo hynny’n bosibl.
- Yfwch yn rheolaidd a chadwch eich lefelau hylif i fyny. Bydd cael diodydd rheolaidd drwy gydol y dydd yn helpu i gadw’r corff wedi’i hydradu. Dylai menywod fod yn yfed 1.6 litr o hylif a dynion 2 litr o hylif y dydd. Cyfyngwch sudd ffrwythau a/neu smwddis i gyfanswm o 150ml y dydd.
Yn ogystal â bwyta deiet cytbwys a maethlon, mae angen i ni gofio bod cadw’n heini yn ffordd arall o gynnal iechyd a chryfder. Gall gweithgarwch corfforol helpu i reoli straen, gwella eich system imiwnedd a gwella lefelau egni.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllaw hwn gan GIG Cymru.
Coginio gydag offer cyfyngedig
Mae coginio bwyd blasus sy’n dda i ni yn berffaith bosibl wrth fwyta ar gyllideb, hyd yn oed os yw cyfleusterau coginio yn cael eu cyfyngu i ficrodon yn unig.
Mae coginio yn y cartref hefyd yn arbed arian, o gymharu â phrynu prydau bwyd parod neu brydau parod wedi’u paratoi ymlaen llaw. Rydym wedi cynnwys detholiad o syniadau am ryseitiau rhesymol sy’n defnyddio offer cyfyngedig y gellir eu gweld yma.
Rhowch gynnig arni!

Lleihau gwastraff/storio bwyd
Dyma rai ffyrdd gwych o leihau gwastraff bwyd a gwneud y gorau o’r hyn sydd gennych gartref:
- Cynlluniwch eich prydau bwyd
Mae cynllunio seigiau rydych am eu gwneud neu gynhwysion rydych yn credu y bydd eu hangen arnoch yn helpu i leihau eich amser siopa a’r potensial i wastraffu bwyd. Cynlluniwch rai ryseitiau ar ddechrau’r wythnos yn seiliedig ar yr hyn sydd gennych yn eich cypyrddau yn barod, yna ystyriwch beth arall sydd ei angen arnoch, a meddyliwch a allwch ddefnyddio’r un cynhwysion mewn gwahanol brydau. - Defnyddiwch eich tuniau
Peidiwch â bod ofn defnyddio bwydydd tun neu wedi’u rhewi yn eich prydau bwyd. Mae ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi ac mewn tun yn dal yn faethlon ac fel arfer yn llawer rhatach. Gallant hefyd fod yn symlach i’w paratoi a chael oes silff llawer hirach. - Gwnewch y gorau o’ch rhewgell
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os mai dim ond i un neu ddau rydych chi’n coginio. Mae coginio prydau swp a’u rhoi yn y rhewgell am ddiwrnod arall yn ffordd economaidd o goginio, ac yn eich arbed rhag gorfod dechrau o’r newydd bob tro. Mae chillis, cawliau, cyris a stiwiau yn gweithio’n dda iawn fel prydau swp. Gellir gweld awgrymiadau ar gyfer rhewi bwyd gartref yn ddiogel yma. - Deall eich labeli
Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymddangos ar ystod eang o fwydydd wedi’u rhewi, wedi’u sychu, bwydydd tun ac eraill. Y dyddiadau gorau cyn yw ansawdd posibl yr eitem fwyd, nid diogelwch. Fodd bynnag, os yw eitem o fwyd wedi pasio ei ‘ddyddiad defnyddio erbyn’ ni ddylech ei fwyta, hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn. Mae hyn oherwydd y gallai ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwn roi eich iechyd mewn perygl. - Bod yn greadigol gyda gweddillion
Mae gan wefan Caru Bwyd Casáu Gwastraff ryseitiau gwych a all eich helpu i leihau eich gwastraff bwyd a throi eich bwyd dros ben a’ch sbarion bwyd yn rhywbeth blasus. Edrychwch ar diwtorialau fideo Richard Shaw ar gyfer syniadau ryseitiau. Mae Richard yn economegydd cartref sy’n rhedeg ‘Cooking Together’ - Storio bwyd yn ddiogel
Oeddech chi’n gwybod y dylid cadw tatws mewn bag ac mewn cwpwrdd tywyll i ffwrdd o fwydydd sy’n arogli’n gryf? Neu fod mayonnaise yn perthyn yn yr oergell nid yn y cwpwrdd storio? Am lawer o gyngor ar sut i storio bwyd yn briodol i sicrhau ei fod yn para’n hirach, ewch i’r wefan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff – mae ganddynt ganllaw defnyddiol A-Y ar storio bwydydd cyffredin y gallwch ei weld yma.
Adnoddau Defnyddiol
- 20 awgrym ar gyfer bwyta’n dda am lai
- Syniadau ryseitiau ar gyllideb Good Food y BBC
- Bod yn greadigol gyda phlant yn y gegin
- Syniadau cwpwrdd storio i gefnogi oedolion hŷn.