{"id":12121,"date":"2024-09-04T10:06:12","date_gmt":"2024-09-04T09:06:12","guid":{"rendered":"https:\/\/foodcardiff.com\/?p=12121"},"modified":"2024-09-04T10:06:12","modified_gmt":"2024-09-04T09:06:12","slug":"lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/","title":{"rendered":"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro"},"content":{"rendered":"<div style=\"margin-top: 0px; margin-bottom: 0px;\" class=\"sharethis-inline-share-buttons\" ><\/div>\n<p>Mis nesaf, bydd cynllun newydd sbon danlli ar gyfer dychwelyd cwpanau coffi yn cael ei lansio ym mhrifddinas Cymru. Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd \u2013 y cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru \u2013 yn galluogi trigolion Caerdydd i \u2018fenthyg\u2019 cwpan tecaw\u00ea amldro gan gaffi sy\u2019n rhan o\u2019r fenter, gan ei ddychwelyd yn nes ymlaen fel y gellir ei olchi a\u2019i ddefnyddio wedyn dro ar \u00f4l dro.  <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd yn cael ei gyflwyno yng nghaffis y ddinas o 4 Hydref 2024. Gwireddwyd y cynllun gan Caerdydd AM BYTH, gyda chymorth ariannol o \u00a390,000 gan Lywodraeth y DU trwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Er mwyn rhoi\u2019r cynllun ar waith, mae Caerdydd AM BYTH yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r elusen amgylcheddol City to Sea, a bydd yr <a href=\"https:\/\/www.refill.org.uk\/\">ap<\/a> <a href=\"https:\/\/www.refill.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">\u2018Ail-lenwi\u2019<\/a> yn galluogi ymwelwyr a thrigolion Caerdydd i chwilio\u2019n rhwydd am leoliadau ar gyfer casglu a danfon eu cwpanau amldro.  <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd cyfnod peilot y cynllun ar waith tan ddiwedd mis Mawrth 2025, a\u2019r nod yw lleihau gwastraff a mynd i\u2019r afael \u00e2 llygredd a sbwriel ledled y ddinas. Bydd effaith y cynllun yn cael ei mesur a\u2019i gwerthuso gan <em> <\/em>Ysgol Fusnes Greenwich ym Mhrifysgol Greenwich a chan Ysgol Fusnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn y gobaith y bydd y data\u2019n helpu i esgor ar lasbrint ar gyfer cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith ar hyd a lled y DU yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/publications.parliament.uk\/pa\/cm201719\/cmselect\/cmenvaud\/657\/657.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Amcangyfrifir<\/a> bod 2.5 biliwn (30,000 tunnell) o gwpanau coffi tecaw\u00ea yn cael eu defnyddio a\u2019u taflu ymaith bob blwyddyn yn y DU \u2013 digon i ymestyn o amgylch y byd bum gwaith a hanner pe baent yn cael eu gosod y naill ar \u00f4l y llall \u2013 ac ar hyn o bryd, ni chaiff 99% ohonynt eu hailgylchu. Mae\u2019r DU yn defnyddio nifer anhygoel o gwpanau coffi bob dau funud \u2013 sef <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/magazine-36882799\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">10,000<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r caffis a\u2019r siopau coffi sydd wedi ymuno \u00e2\u2019r cynllun yn cynnwys Waterloo Tea yn Arc\u00ead Wyndham, Pettigrew Bakeries (mewn tri lleoliad ledled y ddinas \u2013 sef Arc\u00ead y Castell, Parc Bute a\u2019r Rhath), Da Coffee (mewn dau leoliad \u2013 sef Tramshed Tech ac Un Sgw\u00e2r Canolog) a Bird  Blend Tea. Mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i roi gostyngiad o 15c fan leiaf ar bris coffi i bwy bynnag sy\u2019n defnyddio cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd. <\/p>\n\n\n\n<p>Sut y mae cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd yn gweithio:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd caffis a siopau coffi ledled y ddinas yn ymuno \u00e2\u2019r cynllun a byddant yn cael st\u00f4r o gwpanau amldro. <\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y cwsmer yn lawrlwytho\u2019r <a href=\"https:\/\/www.refill.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ap \u2018Ail-lenwi\u2019 <\/a>ac yn cofrestru manylion ei gerdyn yn barod ar gyfer defnyddio un o gwpanau\u2019r cynllun (ni fydd arian yn cael ei gymryd oddi ar y cerdyn).<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fydd y cwsmer yn prynu coffi, bydd y barista yn defnyddio\u2019r ap \u2018Ail-lenwi\u2019 gwobrwyol i sganio cod QR ar un o gwpanau\u2019r cynllun, a bydd y cwsmer yn \u2018berchen\u2019 ar y cwpan hwnnw dros dro. <\/li>\n\n\n\n<li>Bydd yr ap \u2018Ail-lenwi\u2019 yn atgoffa\u2019r cwsmer pryd i ddychwelyd y cwpan, ac i ble. Cyn belled ag y dychwelir y cwpan o fewn pythefnos, NI CHODIR T\u00c2L ar y cwsmer am ddefnyddio\u2019r cynllun. <\/li>\n\n\n\n<li>Ar \u00f4l i\u2019r cwsmer ddychwelyd y cwpan, bydd y manwerthwr yn ei sganio, yn ei olchi ac yn ei roi yn \u00f4l yn ei briod le fel y gall cwsmer arall ei ailddefnyddio \u2013 dro ar \u00f4l tro ar \u00f4l tro!<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-1200x800.jpg\"><img decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"800\" data-id=\"12117\" data-src=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-1200x800.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12117 lazyload\" data-srcset=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-600x400.jpg 600w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-768x512.jpg 768w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-1536x1023.jpg 1536w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2-2048x1364.jpg 2048w\" data-sizes=\"(max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" style=\"--smush-placeholder-width: 1200px; --smush-placeholder-aspect-ratio: 1200\/800;\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-1200x800.jpg\"><img decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"800\" data-id=\"12115\" data-src=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-1200x800.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12115 lazyload\" data-srcset=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-600x400.jpg 600w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-768x512.jpg 768w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-1536x1023.jpg 1536w, https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/The-Cardiff-Refill-Return-Cup-2048x1364.jpg 2048w\" data-sizes=\"(max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" style=\"--smush-placeholder-width: 1200px; --smush-placeholder-aspect-ratio: 1200\/800;\" \/><\/a><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Medd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201c<em>Mae<\/em> <em><a href=\"https:\/\/www.forcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/FOR-Cardiff-BID2-Business-Plan-Final-Compressed-2.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cynllun busnes Caerdydd AM BYTH ar gyfer 2021-26<\/a><\/em><em> yn nodi\u2019n glir ein huchelgais i gynorthwyo busnesau a gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i wella cynaliadwyedd canol y ddinas, felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian angenrheidiol ar gyfer gwireddu\u2019r cynllun peilot cyffrous hwn. Rydym yn hollol hyderus y bydd trigolion Caerdydd yn cefnogi\u2019r cynllun ac y byddant yn ein helpu i atal hyd at 30,000 o gwpanau untro rhag cael eu defnyddio.\u201d <\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Medd David Le Masurier, cydsylfaenydd Pettigrew Bakeries yng Nghaerdydd \u2013 sef un o\u2019r busnesau annibynnol cyntaf i ymuno \u00e2\u2019r cynllun newydd:<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cDros y blynyddoedd, rydym wedi chwilio\u2019n gyson am ffyrdd o gynnig bwydydd tecaw\u00ea mewn ffordd fwy cynaliadwy \u2013 fel rhoi gostyngiad i bobl am ddefnyddio\u2019u cwpanau eu hunain a chwilio am ddeunyddiau bioddiraddadwy ar gyfer ein cwpanau a\u2019n deunyddiau pacio \u2013 ond mae llawer o heriau\u2019n perthyn i\u2019r dulliau hyn. Doedd dim rhaid inni feddwl ddwywaith cyn ymuno \u00e2\u2019r cynllun peilot hwn oherwydd, yn amlwg, dyma\u2019r opsiwn mwyaf cynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhoi pethau ar waith, oherwydd gwyddom y bydd ein cwsmeriaid yn bachu ar y cyfle i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l George Clarke, Arweinydd Rhaglen City to Sea:<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cGan adeiladu ar lwyddiant y cynllun Dychwelyd Cwpanau ym Mryste a Chaerfaddon, rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Caerdydd AM BYTH i gyflwyno\u2019r cynllun yng Nghaerdydd er mwyn atal miloedd o gwpanau untro diodydd poeth rhag ymuno \u00e2\u2019r ffrwd wastraff. Rydym yn llawn cyffro yngl\u0177n \u00e2\u2019r ffaith mai\u2019r prosiect hwn fydd y prosiect peilot cyntaf yng Nghymru ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o\u2019r ffordd fwyaf effeithiol o weithredu\u2019r system ac ennyn diddordeb y cyhoedd a busnesau lleol \u2013 mae llygredd a sbwriel untro yn her y mae\u2019n rhaid i bob un ohonom fynd i\u2019r afael \u00e2 hi.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Medd y Cynghorydd Dan De\u2019Ath, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201c<em>Caiff biliynau o gwpanau coffi untro eu taflu ymaith bob blwyddyn, ond bydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau y bydd gennym ddewis amgen ymarferol a chynaliadwy am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. Mae helpu i leihau\u2019r gwastraff a gaiff ei greu gan bob un ohonom yn rhan o\u2019n strategaeth Caerdydd Un Blaned, ac rydw i wrth fy modd ein bod, trwy weithio gyda\u2019n partneriaid yn Caerdydd AM BYTH, yn gallu helpu i sicrhau\u2019r cyllid angenrheidiol ar gyfer cyflwyno\u2019r cynllun yng Nghaerdydd.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Dr Nadine Leader, darlithydd mewn Logisteg a Gweithrediadau yn Ysgol Fusnes Caerdydd (Prifysgol Caerdydd): <\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cMae\u2019r ymchwil a wneir gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn cyd-fynd \u00e2\u2019n Strategaeth Gwerth Cyhoeddus o ran cynhyrchu gwerth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol a busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Bydd yr ymchwil yn gwerthuso\u2019r heriau ac effaith gynaliadwy Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd, gan gyhoeddi\u2019r canlyniadau ar ddiwedd y cyfnod peilot. Bydd hyn yn allweddol os hoffem weld cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Pearl Costello yw Cydgysylltydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd Caerdydd \u2013 sef partneriaeth fwyd lewyrchus y ddinas, a\u2019r sefydliad sydd wrth wraidd yr ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o\u2019r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU erbyn 2024 (<a href=\"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/ynglyn-bwyd-caerdydd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhagor o wybodaeth<\/a>). Medd Pearl:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201c<em>Gwych yw gweld cynllun cwpanau amldro cyntaf Cymru yn cael ei lansio yma ym mhrifddinas Cymru. Mae \u2018mudiad bwyd da\u2019 Caerdydd yn tyfu a bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd yn cyfrannu\u2019n fawr at sicrhau y bydd diwylliant caffis llewyrchus y ddinas yn llawer mwy cynaliadwy.\u201d <\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Dylai lleoliadau eraill yng Nghaerdydd sy\u2019n dymuno ymuno \u00e2\u2019r cynllun gysylltu cyn 13 Medi trwy anfon e-bost at Rhiannon yn Caerdydd AM BYTH \u2013 <a href=\"mailto:rhiannon@forcardiff.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhiannon@forcardiff.com.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd \u2013 y cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru \u2013 yn galluogi trigolion Caerdydd i \u2018fenthyg\u2019 cwpan tecaw\u00ea amldro gan gaffi sy\u2019n rhan o\u2019r fenter, gan ei ddychwelyd yn nes ymlaen fel y gellir ei olchi a\u2019i ddefnyddio wedyn dro ar \u00f4l dro.<\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":12119,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[113],"tags":[],"class_list":["post-12121","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro | Food Cardiff<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro | Food Cardiff\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd \u2013 y cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru \u2013 yn galluogi trigolion Caerdydd i \u2018fenthyg\u2019 cwpan tecaw\u00ea amldro gan gaffi sy\u2019n rhan o\u2019r fenter, gan ei ddychwelyd yn nes ymlaen fel y gellir ei olchi a\u2019i ddefnyddio wedyn dro ar \u00f4l dro.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Food Cardiff\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/foodcardiff\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-09-04T09:06:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1-1200x800.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Matt Appleby\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@GoodFoodCardiff\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@GoodFoodCardiff\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Matt Appleby\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Matt Appleby\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/da294c2b646795336cb2a93dd91f16ee\"},\"headline\":\"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro\",\"datePublished\":\"2024-09-04T09:06:12+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/\"},\"wordCount\":1211,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/\",\"name\":\"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro | Food Cardiff\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg\",\"datePublished\":\"2024-09-04T09:06:12+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg\",\"width\":2400,\"height\":1600,\"caption\":\"David Le Masurier, co-founder of Pettigrew-Bakeries and Carolyn Brownell, executive director at FOR Cardiff\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/\",\"name\":\"Food Cardiff\",\"description\":\"Working together to make food fair\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#organization\",\"name\":\"Food Cardiff\",\"url\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/FoodCardiff_logo_green.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/FoodCardiff_logo_green.jpg\",\"width\":768,\"height\":650,\"caption\":\"Food Cardiff\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/foodcardiff\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/GoodFoodCardiff\",\"http:\\\/\\\/instagram.com\\\/foodcardiff\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/da294c2b646795336cb2a93dd91f16ee\",\"name\":\"Matt Appleby\",\"url\":\"https:\\\/\\\/foodcardiff.com\\\/cy\\\/author\\\/mattappleby\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro | Food Cardiff","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro | Food Cardiff","og_description":"Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau \u2018Ail-lenwi\u2019 Caerdydd \u2013 y cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru \u2013 yn galluogi trigolion Caerdydd i \u2018fenthyg\u2019 cwpan tecaw\u00ea amldro gan gaffi sy\u2019n rhan o\u2019r fenter, gan ei ddychwelyd yn nes ymlaen fel y gellir ei olchi a\u2019i ddefnyddio wedyn dro ar \u00f4l dro.","og_url":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/","og_site_name":"Food Cardiff","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/foodcardiff","article_published_time":"2024-09-04T09:06:12+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":800,"url":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1-1200x800.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Matt Appleby","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@GoodFoodCardiff","twitter_site":"@GoodFoodCardiff","twitter_misc":{"Written by":"Matt Appleby","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/"},"author":{"name":"Matt Appleby","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#\/schema\/person\/da294c2b646795336cb2a93dd91f16ee"},"headline":"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro","datePublished":"2024-09-04T09:06:12+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/"},"wordCount":1211,"publisher":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/","url":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/","name":"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro | Food Cardiff","isPartOf":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg","datePublished":"2024-09-04T09:06:12+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#primaryimage","url":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/David-Le-Masurier-co-founder-of-Pettigrew-Bakeries-and-Carolyn-Brownell-Executive-Director-at-FOR-Cardiff-1.jpg","width":2400,"height":1600,"caption":"David Le Masurier, co-founder of Pettigrew-Bakeries and Carolyn Brownell, executive director at FOR Cardiff"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/lansio-cynllun-cwpanau-amldro-caerdydd-er-mwyn-delio-a-2-5-biliwn-o-gwpanau-coffi-untro\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Lansio cynllun cwpanau amldro Caerdydd er mwyn delio \u00e2 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#website","url":"https:\/\/foodcardiff.com\/","name":"Food Cardiff","description":"Working together to make food fair","publisher":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/foodcardiff.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#organization","name":"Food Cardiff","url":"https:\/\/foodcardiff.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/FoodCardiff_logo_green.jpg","contentUrl":"https:\/\/foodcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/FoodCardiff_logo_green.jpg","width":768,"height":650,"caption":"Food Cardiff"},"image":{"@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/foodcardiff","https:\/\/x.com\/GoodFoodCardiff","http:\/\/instagram.com\/foodcardiff"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/foodcardiff.com\/#\/schema\/person\/da294c2b646795336cb2a93dd91f16ee","name":"Matt Appleby","url":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/author\/mattappleby\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12121","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12121"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12121\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12128,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12121\/revisions\/12128"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12119"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12121"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12121"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/foodcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12121"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}