
Gweithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oedran a chefndir drwy fwyd yw’r fenter Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes.
Mae digwyddiad Dewch at eich Gilydd yn cysylltu pobl o wahanol gefndiroedd neu genedlaethau drwy weithgareddau’n ymwneud â bwyd da.
Mae bwyd yn lefelwr da ac mae’n dod â phobl ynghyd, beth bynang eu hoedran, eu hetifeddiaeth neu eu cefndir.
Cofrestrwch a byddwn yn anfon pecyn digwyddiad am ddim atoch sy’n cynnwys pob dim sydd ei angen arnoch i drefnu digwyddiad – posteri, syniadau am ryseitiau, gemau ar gyfer pobl o bob oed a llawer mwy!
O gael cyllid ar gyfer eich gweithgaredd coginio neu dyfu, i offer a deunyddiau er mwyn dod â’ch cymuned ynghyd, gallwn eich cynorthwyo i lansio eich gweithgaredd Dewch at Eich Gilydd.
Mae nifer fawr o bethau y gallwch eu gwneud tra bod Covid-19 yn effeithio ar ein bywydau. Dyma rai syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Cyswllt louise.shute@wales.nhs.uk