Food Cardiff loading now

POLISI PREIFATRWYDD

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu sut mae Bwyd Caerdydd yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i Bwyd Caerdydd wrth ddefnyddio’r wefan hon.

Mae Bwyd Caerdydd yn ymrwymedig i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth benodol a allai ddatgelu pwy ydych chi wrth defnyddio’r wefan hon, gallwch fod yn sicr y caiff ei defnyddio yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn yn unig.

Gall Bwyd Caerdydd newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech chi wirio’r dudalen hon bob hyn a hyn i sicrhau eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau.

Yr hyn rydym yn ei gasglu

Gallwn ni gasglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw, sefydliad a theitl swydd
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth ddemograffig megis cod post, dewisiadau a diddordebau

Caiff y wybodaeth hon ei chasglu drwy ein ffurflenni Mailchimp a ffurflenni gwefan. Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau neu ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen yn unrhyw un o’n e-byst neu gysylltwch â pearl.costello@wales.nhs.uk.

Yr hyn rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwn

Mae angen y wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion a darparu gwasanaeth gwell i chi, ac yn benodol am y rhesymau canlynol:

  • Rhoi gwybodaeth i chi rydych wedi gofyn amdani
  • Ymdrin â’ch ymholiadau
  • Cysylltu â chi’n rheolaidd i roi’r newyddion ddiweddaraf i chi am bartneriaeth Bwyd Caerdydd, digwyddiadau a gwybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb i chi
  • O bryd i’w gilydd, gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi at ddiben ymchwil farchnata.
  • Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i deilwra’r wefan i’ch diddordebau chi.
  • Am ein cofnodion mewnol ein hunain

Diogelwch

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad diawdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu’r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein.

Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r darparwyr gwasanaethau trydydd parti a enwir isod i brosesu a storio eich data:

Mailchimp (The Rocket Science Group, LLC), a ddefnyddiwn i reoli rhestrau tanysgrifwyr marchnata e-bost ac i anfon e-byst at ein tanysgrifwyr. Darllenwch eu polisi preifatrwydd.

Automattic, Inc. – defnyddiwn eu meddalwedd WordPress (ac ychwanegiadau cysylltiedig) i reoli cynnwys y wefan hon.

Gallwn hefyd ddefnyddio gweithwyr llawrydd a chontractwyr trydydd parti eraill i reoli ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn gwneud hyn oherwydd ei bod yn fwy effeithlon a chost-effeithiol i ddefnyddio contractwr ac, yn ein barn ni, dyma beth sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian. Pan fyddwn yn defnyddio contractwr, caiff ei ystyried yn Brosesydd Data ac mae dan rwymedigaeth y gyfraith yn yr un modd â ni ac felly mae’n destun rheolau llym o ran prosesu. Ni all contractwyr brosesu eich data personol ond yn y modd penodol rydym yn dweud wrthynt i’w wneud ac mae’n rhaid iddynt beidio â rhannu eich data personol ag unrhyw un arall heb ein caniatâd pendant. Cyn defnyddio contractwr, byddwn yn sicrhau bod ganddo’r mesurau priodol ar waith i ddiogelu eich data personol.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a ddaliwn amdanoch yn cael ei storio a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 y DU a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Beth yw cwcis?

Ffeiliau bach yw cwcis y mae gwefannau’n eu rhoi ar yriant disg caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn mynd arnynt. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro rydych yn eu cyrchu. Cânt eu defnyddio i nodi porwyr gwe unigol, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth am ddewisiadau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu ar gwcis neu eu hanablu ar eich porwr; sylwch ei bod yn bosibl na fydd rhai gwefannau’n gweithredu’n iawn heb gwcis.

Sut i Analluogi Cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:

Internet Explorer: Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am sut i analluogi cwcis.

Firefox: Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am sut i analluogi cwcis

Chrome: Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am sut i analluogi cwcis.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni sy’n eich galluogi i fynd yn rhwydd i wefannau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith eich bod wedi dilyn y dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes unrhyw reolaeth gennym ar y gwefannau eraill hynny. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a rowch wrth fynd ar y fath wefannau ac nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r fath wefannau. Dylech chi fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Eich hawliau dan Ddeddf Diogelu Data 2018

Mae gennych yr hawl i ofyn pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei dal amdanoch ac i gael copi ohoni.

  • Os oes unrhyw wybodaeth a ddelir gennym yn anghywir, byddwn yn ei chywiro os gofynnwch i wneud hynny.
  • Gallwch chi ofyn i ni ddileu’r wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chi a ddelir gennym o’n cofnodion.
  • Gallwch chi dynnu eich cydsyniad yn ôl o ran sur mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu pan fo’r prosesu hwnnw’n seiliedig ar eich cydsyniad, a hynny ar unrhyw adeg.
  • Hefyd gallwch orffen tanysgrifio i’n cylchlythyr ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’r ddolen ar waelod y cylchlythyr.

O ran yr holl ddewisiadau uchod, dylech chi ein e-bostio pearl.costello@wales.nhs.uk