Food Cardiff loading now

Uncategorized @cy

Mae Bwyd Caerdydd a Bwyd y Fro wedi lansio canllaw newydd ar gyfer Caffael Bwyd Cynaliadwy yn y sector cyhoeddus. Nod y canllaw yw helpu cyrff cyhoeddus i gymryd camau mawr tuag at system fwyd fwy cynaliadwy ac iach i gefnogi cynllun Symud Mwy Bwyta’n Iach Cymru.

Ddydd Iau, 9 Tachwedd, cymerodd Bwyd Caerdydd ran mewn Uwchgynhadledd Llysiau, wedi’i chynnal gan Synnwyr Bwyd Cymru yn Yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau’r fenter Pys Plîs yng Nghymru.

Yma, mae Laure yn rhannu tri o’r ryseitiau y gwnaeth eu harddangos yn ystod Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd er mwyn i chi roi cynnig arnynt gartref.

Tua diwedd y mis, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob cwr o’r ddinas ar gyfer cyfarfod olaf rhwydwaith Bwyd Caerdydd eleni!

Dyma rai o uchafbwyntiau Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd, yn ôl y grwpiau bwyd, tyfu a chymunedol a drefnodd y digwyddiadau.

Mae Bwyd Caerdydd yn cefnogi cynllun peilot i ddatblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol lleol newydd mewn ysgolion – gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau.

Ethos grŵp Bwyty Pasture yw defnyddio cynhyrchion lleol, hyrwyddo bwyd yn ei dymor a dileu gwastraff bwyd ac yn sgil hynny mae wedi ennill Gradd 3* ‘Food Made Good’ y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy – sy’n golygu mai Pasture yw’r bwyty annibynnol cyntaf yng Nghymru i gael yr achrediad arbennig hwn.

“Fel busnes, mae cynaliadwyedd, yr ardal leol a’r blaned mor bwysig i ni; ein nod bob amser yw gwneud cyn lleied o niwed i’r amgylchedd o’n cwmpas ag y bo modd ac rydym bob amser yn ymdrechu i wneud mwy lle bynnag y gallwn.”

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn gyda rhaglen o ddigwyddiadau bwyd wedi’u trefnu ar draws y ddinas y mis hwn i arddangos y mudiad bwyd da yn y ddinas.

Mae Carol Adams yn Gyfarwyddwr Food Adventure Social Enterprise Limited, ac yn sylfaenydd Back To Our Roots; prosiect sy’n dysgu pobl yng Nghymru sut i dyfu llysiau fel ocra a chalalŵ (callaloo).
Yn ein blog diweddaraf, mae Carol yn dweud wrthym pam bod hyn yn bwysig iddi

Elusen genedlaethol sy’n ceisio dileu tlodi bwyd, unigrwydd a gwastraff bwyd o bob cymuned yw FoodCycle. Fe gawson ni sgwrs gyda Suzanne Waring, Rheolwr Rhanbarthol FoodCycle yng Nghymru, i ddarganfod mwy.

Mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn ym mis Medi, ac mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol ddathlu cyfoeth yr hydref a hyrwyddo bwyd tymhorol sy’n gyfeillgar i’r blaned.